Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Llythyr ysgrifennwyd at “Fy annwyl Amalia” gan DOF (tebyg mai dyn ydyw) yn Riogrande do Sul, dyddiedig 3 Mehefin 1873

Ysgrifennodd yr awdur i ddiolch i Amalia am ei llythyr dyddiedig 25 Mai, ac roedd yn falch o ddeall eu bod i gyd yn iach ac fod ganddynt dý gwell. Roedd o'n gobeithio eu bod yn gyfforddus, ond nid oedd yn sicr ble'r oedd y tý, gan nad oedd Atkins yn gallu egluro'n iawn. Roedd wedi rhoi y fasged gyda mêl a fructa de Conde iddi, gan ei fod yn gwybod ei bod yn ei hoffi'n fawr. Mae gweddill y llythyr wedi ei ysgrifennu yn Sbaeneg. Dywedodd Thomas ei fod wedi ysgrifennu at DOF cyn gadael Pelotas, ond nid oedd Amalia wedi derbyn y llythyr. Ar 25 Mehefin, byddai 74 o Wladychwyr o Loegr yn cyrraedd ac roedd wedi cael wythnos drwblus. Roedd yr Arlywydd wedi bod yn ymweld â sawl lleoliad yn y Rhanbarth, ac wedi bod yn eu gweld. Roedd gan yr awdur hiraeth mawr am Amalia, a dymunai dderbyn llythyr cariadus ganddi. Roedd wedi ceisio dod o hyd i ddwy forwyn iddi ond wedi methu â darganfod rhai addas, ac yn awgrymu ei bod hi ei hun yn chwilio am rai. Nid oedd y ddesg ysgrifennu wedi cyrraedd, ond roedd eisiau cael gwybod pana phetai hi'n cyrraedd. Datganodd DOF nad oedd yn hapus gyda Watson ac nid oedd yn dymuno i'w blant fynd yno rhag ofn iddynt ddysgu arferion drwg. Nid oedd yn cofio Silve, ac yn gofyn os mai hen ddyn ydoedd. Darfu DOF y llythyr trwy ddweud ei fod yn “anfon ei gariad a bendith iddi hi a'i blant annwyl – Duw a'ch bendithio i gyd” ac anfonodd ei gariad, bendith a chusanau i Amalia. Arwyddwyd DOF

[Ychwanega yn hwyrach:]
Ni allaf anfon yr esgidiau a'r rhwydi ar y stem yma. Costiodd y ffrogiau 25 milreis

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw