Llythyr i Thomas Benbow Phillips gan Stuart Barnes, 1 Gorffennaf, 1873
Disgrifiadau
Llythyr ysgrifennwyd at Thomas Benbow Phillips yn Rio Grande do Sul gan Stuart Barnes yn Calle Reconquista 72, Buenos Aires, dyddiedig 1 Gorffennaf 1873
Ymddiheurodd Stuart Barnes nad oedd wedi ateb llythyr Thomas Benbow Phillips dyddiedig 4 Mai. Yn anffodus, roedd wedi cael llawer o drafferthion, fel eraill yn y gymuned. Cwynodd fod busnes yn gyffredinol yn ddistaw, a phobl yn ei chael hi'n anodd i dalu biliau. Ysgrifennodd Mrs Jeremiah lythyr caredig ato yn diolch iddo, o dan yr amgylchiadau, am ei gyfeillgarwch. Roedd wedi gwneud arian o'r busnes Gwerthu Tir a hefyd gyda phatent am bibell garthion i'w defnyddio yn y ddinas, ac ymhen amser, ei defnyddio yn Ne America i gyd. Felly roedd pethau'n edrych ar i fyny ar ôl y trafferthion a'r siomedigaethau diweddar. Bwriadai Stuart Barnes deithio i lawr yr arfordir i weld y wlad, a gwahoddodd Thomas Benbow Phillips i ymuno ag ef.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment