Datganiad cyfreithiol o Bŵer Atwrnai wedi ei roi i Stuart Barnes dyddiedig 24 Mawrth, 1873
Disgrifiadau
Datganiad cyfreithiol o Bŵer Atwrnai wedi ei roi i Stuart Barnes dyddiedig 24 Mawrth, 1873
Mae hwn yn ddatganiad cyfreithiol maith yn datgan yr holl Bŵer Atwrnai yr oedd Stuart Barnes yn ei ddal ar ran William Jeremiah a Jonathan J Jones, perchenogion y Brig “Rush” ac yn apwyntio Thomas Benbow Phillips yn gynrychiolydd cyfreithlon yn Rio Grande do Sul wrth ymwneud â'r llong a'i chargo, wedi ei arwyddo gan Stuart Barnes ar 24 Mawrth, 1873. Roedd y Conswl wedi ychwanegu atodiad yn datgan ei fod yn adnabod Stuart Barnes yn bersonol, a bod y llofnod yn ddilys. Roedd John G Cox wedi arwyddo mai Stuart Barnes oedd eu cynrychiolydd swyddogol, ac roedd Stuart Barnes wedi ychwanegu ei lofnod ef o dan rai William Jeremiah a Jonathan J Jones. Roedd y Conswl D E Clasp (Clapp?) wedi awdurdodi fod gan Stuart Barnes Bŵer Atwrnai i weithredu ar ran perchenogion y llong.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment