Skip to main content

Cerdd 'Patagonia am y Cymry' (Patagonia i'r Cymry)

Disgrifiadau

Teitl: Patagonia am y Cymry

Darn o farddoniaeth canmoliaethus yn yr iaith Saesneg, gan awdur anhysbus, mewn odl wedi ei ysgrifennu i foliannu'r Cymry a deithiodd i Batagonia. Roedd deg pennill pedair llinell, gyda'r cytgan isod ar ôl pob un:

Felly, fyny hefo'r Ddraig Goch, Fyny ein baner,
Ni adawn iddi lusgo hyd y llaid,
Patagonia i'r Cymry, dyna ein arwyddair
Patagonia i'r Cymry, nes bod ein pobl yn rhydd.

Roedd dynion dewr wedi teithio dros y môr i fan lle byddai'r Cymry yn rhydd, gyda'u Draig Goch a'u calonnau dewr. Roeddynt wedi teithio o Geredigion, Meirionnydd, Morgannwg a Chaernarfon yn y llong Mineza ac mor falch pan welsant y creigiau gwyn yn estyn croeso iddynt. Glaniasant ar y traeth gyda'u gynnau'n barod, meddiannu tir diffaith a chodi baner y Ddraig Goch. Eu harwyddair oedd “Paragonia i'r Cymry”. Bu'n rhaid iddynt oresgyn anawsterau a chystudd, wynebu llifogydd a newyn a'r Indiaid brodorol, ond safodd eu gwragedd dewr ysgwydd wrth ysgwydd efo nhw. Gyda chymorth Duw byddai'r Cymry yn cadw'r tir a gwneud iddo flodeuo. Roedd llawer o waith i'w wneud. Roedd yno fwynwyr o Forgannwg a phobl o Geredigion oedd wedi clywed yr alwad i'r Wladfa, ac roeddynt mor falch o'r arloeswr oedd wedi hwylio'r moroedd i sicrhau y byddai'r Cymry a'u gwragedd yn rhydd.

Owner:
Silvia Elvina Williams
Crëwr:
unknown
Gwybodaeth drwydded
Eitem wedi’i llwytho:
15/11/2017
Gwelediadau:
1314
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment