Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Llythyr ysgrifennwyd at Thomas Benbow Phillips gan ei frawd, A Phillips, yn Rio Grande do Sul, dyddiedig 18 Tachwedd; y llythyr amgaeȅdig i'w ddanfon i W Chaplin.

Dywedodd A Phillips nad oedd wedi derbyn llythyr yn ddiweddar, ond fod ei dad wedi derbyn un. Roedd yn flin ganddo glywed fod Thomas Benbow Phillips wedi bod mor wael, ac roedd yn gobeithio y byddai'n well yn fuan. Dywedodd wrtho y byddai'n well iddo ddod i aros gydag ef, ond deallodd fod Thomas Benbow P hillips yn dweud ei bod yn rhy laith yno. Rhestrodd wahanol newyddion o'r swyddfa, gan gynnwys newyddion gwleidyddol am y llywodraeth. Roedd y Rheilffordd yn dod yn ei flaen yn araf, ac roedd wedi rhoi cynnig o 100#000 am ddarn o dir. Roedd rhywun arall wedi rhoi cynnig tebyg, felly roedd rhaid aros i weld os byddent yn tynnu'n ôl. Soniodd am y Gomed oedd yn weledig yn y ffurfafen ers peth amser. Nododd fod ei gyflog yn dal ar yr un hicyn, ni chredai y byddai'n cael codiad cyflog petai'n aros yno, ac efallai y dylai ystyried ymddiswyddo. Gobeithiai y byddai ei frawd yn ysgrifennu ato'n fuan. Dywed ei fod ef, a gweddill ei deulu, mewn iechyd da.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw