Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Llythyr ysgrifennwyd at Thomas Benbow Phillips gan ei frawd, A Phillips, yn Rio Grande do Sul, dyddiedig 24 Awst

Diolchodd A Phillips i'w frawd am y papurau newydd. Adroddodd fod ei fab bychan, Griffith, yn affodus wedi marw ar 10 Awst. Roedd wedi mynd mewn i ystafell ei rieni, cynneu matsien a rhoi ei ddillad ar dân. Trwy lwc, roedd ei fam yn yr ystafell nesaf, ac wedi gallu diffodd y tân cyn iddo ei losgi'n arw. Fodd bynnag, ar ôl ffit, bu'r bychan farw, a'i gladdu yn y Fynwent Brotestaniadd. Roedd Rheillfordd ar fin cael ei hadeiladu, ac roedd tri deg o beirianyddion yn barod i ddechrau'r gwaith. Roedd pabell syrcas Albano Pereira wedi cwympo, ond nid oedd unrhyw anafiadau. Holodd os byddai'r “Norseman” yn teithio i Montevideo. ac a fyddai'n cario rhaffau, achos fod y rhaffau ym Montevideo yn rhai gwael. Roedd yn gobeithio fod teulu ei frawd mewn iechyd da, ac adroddodd fod ei deulu ei hun yn well erbyn hyn, ond yn colli'r bachgen bach.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw