Llythyr i Thomas Benbow Phillips gan Jessie Watson, 7 Mehefin, 1871
Disgrifiadau
Llythyr ysgrifennwyd at Thomas Benbow Phillips gan Jessie Watson yng Nghrail, dyddiedig 7 Mehefin 1871
Derbyniodd lythyr Thomas Benbow Phillips dyddiedig 2 Ebrill, ynghŷd â rhestr o gyfrannwyr a Bil am y swm a gasglwyd, sef £57 1s 9c sterling. Dywed fod y caredigrwydd a ddangoswyd iddi hi a'i phlant yn eu hamgylchiadau presennol mewn gwlad ddieithr wedi ei llethu. Roedd yn amlwg iddi golli ei gŵr, roedd ei phlant wedi colli eu tad ac roedd y rhodd hael hon yn mynd i'w galluogi i agor siop groser, er mwyn iddi fedru magu ei phlant yn barchus. Roedd yn anfon ei dymuniadau gorau ar gyfer iechyd Thomas Benbow Phillips a phob bendith i'r dyfodol.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment