Llythyr i Thomas Benbow Phillips gan Sinclair Robinson, 11 Chwefror, 1868
Disgrifiadau
Llythyr ysgrifennwyd at T B Phillips ym Mhelotas gan Sinclair Robinson ar ran Sinclair Horrocks & Cyf, yn Rio Grande, dyddiedig 11 Chwefror 1868.
Derbyniwyd llythyr Thomas Benbow Phillips ynghylch siwrnai adref un George Roper yn y llong “Englishman”, ac reodd Sinclair Horrocks & Cyf wedi cyfarwyddo asiant, sef Joao mChaves i ymdrin â'r mater. Fe wnaeth hynny. Fodd bynnag, nid ymddangosodd George Roper ar y dyddiad penodedig nac ar y diwrnod canlynol, a fyddai hefyd wedi bod yn gyfleus. Roedd Capten y llong yn flin iawn nad oedd wedi troi i fyny, oherwydd roedd wedi mynd i drafferth i wneud trefniadau arbennig i wneud y fordaith yn gyfforddus i'r teithiwr. Cadarnhaodd Sinclair Robinson y byddai arian tocyn y daith yn cael ei anfon ymlaen. Roedd Mrs Blackhall yn anghywir wrth feddwl fod y Cwmni yn gwybod popeth am amgylchiadau'r gŵr ifanc. Roedd Sinclair Robinson wedi clywed fod gan Gerge Roper arian i dalu am ei fordaith, ac roedd yn holi a fyddai tua £25 yn ddigonol i'r perwyl.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment