Llythyr ysgrifennwyd at Mrs Phillips gan Mr C Bond yn Rio Grande dyddiedig 12 Medi 1865
Disgrifiadau
Roedd C Bond yn falch o dderbyn llythyr gan Mrs Phillips a chlywed ei bod hi mewn iechyd da a bod problemau iechyd y teulu yn gwella. Â rhagddo i ddweud hanes ei deulu ei hun, ynghŷd â genedigaeth plentyn newydd. Roedd Grace, ei wraig, yn gwella'n raddol ar ôl esgor, ac yn gobeithio ail ddechrau mynd allan yn fuan. Nid oedd yn canmol Rio Grande ac yn cwyno bod y cig eidon yn wael iawn, ond fod digonedd o lysiau ar gael. Roedd llaeth yn ddrud, a byddai'n rhaid iddo drafod y menyn gyda Mrs Ward, oherwydd fod y menyn oedd ganddo yn hallt ac yn sur iawn. Dymunodd anfon cofion at y Wards a Mrs Conner. Roedd Grace ac yntau yn anfon cyfarchion cynnes at Mrs Phillips a'r teulu, ac i eraill; anfonodd ei gofion serchog at ei gyfaill hoff.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment