Skip to main content

Llythyr i Thomas Benbow Phillips gan Ann Williams, 20 Chwefror, 1852

Disgrifiadau

Llythyr ysgrifennwyd at “Gyfaill Hoff”, h.y. Thomas Benbow Phillips gan Ann Williams yn 14 Upper Hassington Street, 20 Chwefror 1852.

Hysbysa Ann Williams Thomas Benbow Phillips am farwolaeth ei rhieni hi ar ddiwedd y flwyddyn flaenorol a pha mor drawmatig y bu'r profiad iddi hi. Cyfeiria at pa mor hapus oedd hi fod rhieni Thomas Benbow Phillips wedi cyrraedd Brasil yn ddiogel, a pha mor drist oedd hi i glywed am ei ddiffyg hapusrwydd personol ym Mrasil. Sonia hefyd efallai y gallai hi helpu i ddatrys y sefyllfa. Roedd Mr Roberts wedi galw yn nhŷ Ann Williams y noson flaenorol a dweud ei fod wedi ysgrifennu llythyr at Thomas Benbow Phillips, ac yn bwriadu anfon rhywfaint o offer ysgrifennu iddo. Byddai hi ei hun hefyd yn anfon peth offer, gan gynnwys darnau o gŵyr selio. Gorffenna'r llythyr trwy ddweud fod ei chwaer yn anfon ei chariad at ei rieni ac iddo ef ei hun, a dymunodd hapusrwydd a ffyniant i Thomas Benbow Phillips.

Owner:
Silvia Elvina Williams
Crëwr:
unknown
Gwybodaeth drwydded
Eitem wedi’i llwytho:
15/11/2017
Date originally created:
20/2/1852
Gwelediadau:
526
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment