Llythyr i Thomas Benbow Phillips gan Timothy Walker, 10 Mehefin, 1851
Disgrifiadau
Llythyr gan Timothy Walker, 74 Water Street, Manceinion at Thomas Benbow Phillips, ysgrifennwyd 10 Mehefin 1851
Roedd Timothy Walker yn falch fod pawb wedi cyrraedd yn ddiogel i Brasil, ac yn falch o glywed am sefydlu'r Wladfa i Genedl y Cymry, gyda chefnogaeth Llywodraeth Brasil. Dengys Ewrop gydymdeimlad â Brasil fel canlyniad i lymder y Fasnach Caethweision a bellach mae ganddynt wybodaeth am yr adnoddau gwych oedd ar gael ym Mrasil. Dymuna anfon cofion drwy law rhieni Thomas Benbow Phillips, oedd wedi gadael bywyd cysurus a ffrindiau yng Nghymru ar ddiwedd oes i sefydlu cartref newydd ym Mrasil. Dealla fod llawer o deuluoedd yng Nghymru yn trefnu eu materion ariannol fel y gallent hwy hefyd ddechrau bywyd newydd ym Mrasil. Byddai unrhyw wybodaeth, mapiau ayb am y Wladfa y gallai Thomas Benbow Phillips eu hanfon yn dderbyniol.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment