Skip to main content

Erthygl papur newydd, 'Y Wladfa Gymreig' Pwyllgor. Rhyddarch Huws ac R.J. Berwyn

Disgrifiadau

Y WLADFA GYMREIG

CYFARFOD Y PWYLLGOR CYFFREDINOL

Ymgyfarfu nifer o brif aelodau Pwyllgor y mudiad uchod yn y Bala, Mehefin 15, 1869, i dderbyn adroddiad Mr Lewis Jones o helyntion y Wladfa o amser ei ymadawiad i Patagonia hyd yr adeg bresenol, ac i gynllunio mesurau am y dyfodol. Gan fod Mr. L. Jones yn bresenol yn ein cyfarfod, aethpwyd yn fanwl i holl helyntion y drefedigaeth, y rhai oeddynt yn bur ddyddorol, ac yn gofyn amser maith i fyned drwyddynt. Da iawn oedd gan y Pwyllgor ddeall, er yr holl anffodion a gyfarfu yn y Wladfa, fod ymdrechion diflino a hunanaberthol ei chyfeillion wedi eu coroni â llwyddiant. Mae hyn wedi rhoddi ysbryd newydd ym Mhwyllgor y Wladfa, a byddant yn gosod eu holl gynlluniau o weithrediad yn bur fuan o flaen y wlad.

Gan fod Mr. Lewis Joones a'i deulu yn dychwelyd i'r Wladfa o hyn i Hydref, yr ydys wedi penderfynu anfon ail fintai gydag ef, fel ag y gallont fod yno yn barod i gynnull y cynhauaf nesaf. Bydd can' erw o dir am ddim i bob teulu o'r fintai hon etto; ond nid ydynt i ddysgwyl ystoc, celfi gweithio, na chynnhaliaeth, fel ag y cafodd y fintai gyntaf. Gan hynny, dylai y fintai nesaf fod yn meddu ychydig arian ar eu glaniad yn y Wladfa. Nid oes angen mintai fawr o Gymru, ond gofynir cymhwysderau neillduol ynddynt i gyfarfod anghenion presenol y sefydliad.

Darllenwyd yr anerchiad canlynol:-
Anerchiad Gwladwyr Cymreig y Chupat i Bonwr Lewis Jones.

ANWYL GYDWLADWR, - Teimlwn yn ddyletswydd a phleser genym achub y cyfle presenol, pan yr ydych ar fin ein gadael am dymmor i ymweld â'r Hen Wlad, i gyflwyno i chwi ein diolchgarwch am eich ymdrechion dros y Wladfa.

Pan ddaethoch atom ym mis Mai y flwyddyn ddiweddaf, yr oedd ein sefyllfa yn bob peth ond dymunol, a'n Gwladfa ar fin cael ei thòri i fyny. Yr oedd ein syniadau a'n teimladau yn gymysglyd a chynhyrfus iawn y pryd hwnw, a bu dda i ni wrth eich dyfalbarhad chwi a'ch medr i heddychu i gadw y Wladfa wrth ei gilydd. Eithr ni thyciasai hyny i sicrhau y sefydliad yma oni fuasai i chwi ymdrechu yn llwyddiannus gyda'r llywodraeth Arianin am gynnorthwyon gwerthfawr ac amserol. Gwyddom ryw amcan am yr anhawsderau a'r trafferthion a barai y cyfryw negeseuaeth i chwi y ddwy waith y buoch yn Buenos Ayres yn ystod y 10 mis diwethaf; ond drwy eich egni a'ch profiad helaeth, llwyddasoch yn anghyffredin o dan yr amgylchiadau, - mor dda yn wir fel yr ydym yn awr yn teimlo ein hunain mewn sefyllfa gadarnach a mwy gobeithiol nag erioed. Gwyddom mai y daledigaeth oreu a gewch chwi am yr holl drafferth a gymerasoch erom, - am eich hunanymwadiad yn aros cyhyd oddiwrth eich teulu, a thramwy môr a thir yn ein hachos, - fydd ar i'r Wladfa ag y llafuriasoch gyhyd a chymaint drosti lwyddo. Er hyny derbyniwch ein cydnabyddiaeth ninnau hyd hyny, a'n haddewid y gwnawn ei goreu i dddwyn oddeutu y llwyddiant a'r diogelwch i'r Wladfa ag y mynwch chwi ei weled.

Mae genym obaith y bydd eich ymweliad â gwlad ein pethnasau a'n cyfeillion, yn nghyda charedigion y Wladfa – pa le bynag y cyfarfyddwch â hwy – yn foddion i dawelu eu meddyliau hwy ac ychwanegu at ein nifer a'n gallu ni. Er nad ydych yn myned atynt yn swyddogol, yr ydym yn eich ystyried lawn cymaint ein cynnrychiolydd, gan eich bod yn berffaith gydnabyddus âg amgylchiadau pawb o honom, ac yn gwybod ein hanghenion a'n gobeithion mor drylwyr.

Byddwn yn eich dysgwyl chwi a'ch teulu yn ol yn bryderus, ac eraill gyda chwi. Bydd yn hyfrydwch genym dderbyn i'n mysg unrhyw un o'n cydgenedl; ond par ein cydnabyddiaeth o'ch gallu a'ch profiad chwi i ni edrych at eich dychweliad atom gyda phleser ac addewid o groesaw mawr.
Cyflwynwn hyn i chwi yn serchog a charuaidd, dros ac yn enw y Pwyllgor, yr eiddoch,
Porth Madryn, RHYDDARCH HUWS, Llywydd
Patagonia R.J. BERWYN, Ysgrifenydd
Meh.10, 1868.

Penderfynwyd yn
1. Ein bod yn cymeryd y cyfle ar ddyfodiad Mr. Lewis Jones i'r hen wlad, i'w gydnabod am ei wasanaeth anmhrisiadwy i'r mudiad fel cynrychiolydd y Pwyllgor, ac yn ei longyfarch yn y llwyddiant sydd wedi dilyn ei ymdrechion hunanymwadol a dyfalbarhaol hyd yn awr.

2.Fod y Pwyllgor cyffredinol i gyfarfod fel cynt yn Liverpool, ac i Mr. W. Dolben Jones, 22, Williamson Square, i fod yn ysgrifenydd.

Wele lythyr oddiwrth Dr. Rawson, y diweddar weinidog, at Mr. Lewis Jones:-
(CYFIEITHIAD).
Buenos Ayres, Ebrill 26, '69

ANWYL SYR, - Dymunaf i chwi fordaith gysurus, a gobeithiaf y gellwch gyfeirio llanw ymfudiaeth i Wladfa newydd y Chupat.

Fy marn i yw y bydd y drefedigaeth hòno yn hynod lwyddiannus, a bod yno fanteision neillduol i filoedd o ymfudwyr llafurus i fod mewn ychydig amser yn sefydlwyr cyfoethog a chysurus.

Os bydd y farn hon o'm heiddo i o ryw ddefnydd i chwi y mae i chwi groesaw i'w harfer.
Yr eiddoch, &c.
W. RAWSON.

Ydwyf, Dros y Pwyllgor
M.D. Jones
Bala
Meh 23, 1869

Owner:
Silvia Elvina Williams
Crëwr:
unknown
Gwybodaeth drwydded
Eitem wedi’i llwytho:
15/11/2017
Gwelediadau:
973
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment