Llun: Carol yn y gwaith yn Laura Ashley, amser Nadolig, 1980s
Disgrifiadau
Ar ôl gadael yr ysgol, aeth Carol i weithio yn y ffatri staes ond symudodd hi i Ferodo ar ôl blwyddyn achos roedd y cyflog yn llawer gwell. Yn Ferodo, roedd hi'n paentio rhifau ac enw'r cwmni ar y 'break linings' a'r 'stair treads'. Roedd ffatri Ferodo yn enfawr, efo rhannau gwahanol a llwybr i gerdded rownd pob un ohonynt. Doedd y gweithwyr ddim yn cael mynd i mewn i lefydd arbennig oni bai eu bod nhw'n gwisgo'r dillad addas, achos roedd peiriannau yno ac roedd yn beryglus o bosib. Roedd tai bach i'r dynion ac i'r merched a roedd y rheina'n enfawr, meddai, nid fel y tai bach hen ffasiwn 'Edwardaidd' yn y ffatri corsedau. Roedd gan y gweithwyr locars eu hunain efo agoriadau, rhywbeth modern iawn. Roedd cawodydd yno ac roedd y genod yn dod â dillad glân i mewn ar ddydd Gwener, yn golchi eu gwallt yno, ac yn mynd allan i'r dafarn yn syth o'r gwaith. Roedd 'na stafell gymorth cyntaf fawr yn yr 'office block' ac roedd y cantîn tu fas i'r ffatri, un mawr, gyda dau eisteddiad. Roedd pawb yn teimlo fel teulu yno, meddai. Roedd Carol yn mwynhau gweithio yno ond gadawodd hi ar ôl ffrae efo'r rheolwr personel. Aeth hi i Ferranti i weithio ond yn fuan gadawodd y gwaith ffatri i briodi, gan ddychwelyd i waith yn ffatri Laura Ashley yn yr 1980au.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment