Carol Morris, Lleisiau o Lawr y Ffatri

Eitemau yn y stori hon:

Cadarnhaodd Carol ei henw, ei chyfeiriad a’i dyddiad geni, sef 25/12/1948.

Ganwyd Carol yng Nghaernarfon, yn un o bump o blant, roedd ganddi dwy chwaer a dau frawd. Roedd ei brodyr yn y fyddin, a'r genod wedi aros yng Nghaernarfon. Fel plentyn, roedd y teulu yn byw mewn ty 'two up, two down' gyda thy bach y tu allan. Wnaethon nhw symud i dy mawr yn nes ymlaen. Priododd hi yn y chwedegau.

Roedd ei thad, Albanwr, wedi symud i Gaernarfon gyda'r fyddin ar ddiwedd y rhyfel, cwrdd â'i mam, merch o'r dref, priodon nhw a symud i Aberdeen. Ond, doedd mam Carol ddim yn hoffi'r dref felly symudon nhw yn ôl i Gaernarfon.

Roedd ei thad yn gweithio yn Ferodo ar ôl gadael y fyddin, yn y chwedegau, ac yn yr Orsaf Niwclear yn Ynys Môn wedyn, ac mewn ffatrïoedd eraill yn yr ardal. Roedd ei mam wedi gweithio mewn siopau yng Nghaernarfon ac mewn ffatri a oedd tu fas i'r dref yn siecio bombs.

Roedd ei mam yn cofio'r refugees yn dod i Gaernarfon o Lerpwl yn ystod y rhyfel ac roedd ei mam hi wedi eu derbyn i'r ty, er mai ty bach two up, two down oedd e. Roedd ei mam yn cadw mewn cysylltiad â nhw ar ôl y rhyfel, roedden nhw fel chwiorydd dros y blynyddoedd, ac roedd yn teimlo ei bod hi wedi colli chwaer pan fu farw un y flwyddyn wedyn: "Dyna sut oedd yr ardal adeg hynna, neb yn cau'r dryse." Roedd Nain Carol yn byw ar dop y stryd ac roedden nhw’n byw nhw ar y gwaelod. "Pawb yn galw ei hun aunties and uncles a dw i'n bod neb yn perthyn i'w gilydd."

Aeth i Ysgol Maesincla yn y pumdegau ac wedyn i Ysgol Segontium; roedd rhaid trio'r 11 plus i fynd i ysgol arall Caernarfon, sef Syr Hugh Owen. Roedd Ysgol Segontium yn agos iawn, ychydig o filltiroedd, dros gwpwl o gaeau. Gadawodd hi'r ysgol yn 15 oed. Roedden nhw'n gallu gadael yn 15 oed, os oedden nhw wedi cael gwaith; os na, roedd yn rhaid iddynt aros tan yr haf.

‘On i'n cael fy mhen-blwydd ‘Dolig. Doedd dim holidays really adeg hynna, roeddech chi'n cael Dolig, Christmas Eve a Christmas Day os dw i'n cofio'n iawn, off, ond don na ddim New Years Day, dim byd fel 'na. A dw i'n cofio i fi fynd yn ôl i'r ysgol, on i newydd fod am interview ac on i'n dechrau gweithio straight away, ac on i'n mewn jeans yn mynd i'r ysgol a ces i row, on i ddim mewn iwnifform, a ddaru mi ddeud “Dw i ddim yn dod yn ôl, dw i wedi cael gwaith.”’

Cafodd hi swydd mewn ffatri yn gwneud bras yn y cei (y ffatri corsets) - "On i wedi dychryn efo size y cups. I genod ifanc oedden ni, oedden nhw'n fawr. Oedd gynnoch chi'r steels ‘ma yn mynd i fyny'r ochr a rhai i lawr, a'r corff i mewn, which oedden ni ddim (‘di ) gweld y fath beth yn ein dydd erioed, nag oedden. Oedden ni'n cael hwyl yn fan yno."

8.00 Yn y swydd hon, roedd Carol yn ennill naw punt yr wythnos ac yn meddwl ei bod hi'n gyfoethog. Rhoi dipyn i'w mam a chadw'r gweddill ei hun - pedwar neu bum punt i'w mam, meddai. Roedd hi yno ryw flwyddyn a hanner a daeth Ferodo i Gaernarfon - "Ffatri brand new. Ac oedden nhw'n dechrau cymryd plant, plant ifanc. Gynt, pan agorodd o gyntaf, oedden nhw'n cymryd bobl o oedran ond oedden nhw'n dechrau cymryd plant, wel, oedden ni dal yn fod yn blant yn sixteen, a wnes i weithio yna a ges i twenty pound a week.' Roedd hyn yn y chwedegau cynnar, 1963-4, ac roedd hynna yn arian da, meddai, ac roedden nhw'n medru cael bonws a overtime. "So oedd mam yn dal yn cael y pum punt 'ma ac oedden ni'n cael fifteen. Mwy na dim, on i'n medru prynu packet o fags o'r diwedd, ha, ha." Roedd hi'n prynu dillad ac yn trio cynilo dipyn hefyd.

Aeth i i Ferodo achos roedd hi wedi clywed bod 'na fwy o arian yno "a dyna oedd y peth bob tro, ac adeg hynna oeddech chi'n medru mynd o un gwaith i waith arall yn hawdd." Dywedodd hi fod hi wedi colli amynedd hefyd yn y ffatri corsets. Roedd yn cael hwyl efo'r genod yn y ffatri corsets ond doedd o ddim yn swydd oeddech chi'n hoffi gwneud am flynyddoedd, meddai. Yn Ferodo roedden nhw'n gwneud brake linings i geir a stair treads. Roedd hi'n gwneud pob math o bethau yn Ferodo: "Beth oedden nhw'n trio gwneud, dysgu'r ifanc i wneud bob dim yna, mewn ffordd, iddyn nhw ffeindio beth oedden nhw'n licio gwneud."

Bu hi'n gweithio yn y swyddfa yn Ferodo hefyd ond doedd hi ddim yn licio hynna. Roedd o'n debyg i job creation, meddai, er nad oedd y fath beth yr adeg honno. Roedd hi'n gweithio llawn amser ac yn ennill cyflog oedran 16-18 a 18 -21, meddai. Ar ôl 21 roedd y cyflog yn mynd i fyny. Cafodd hi gyfweliad ond dydy hi ddim yn cofio sut oedd o. Mae'n cofio cael sioc achos roedd y lle mor fawr ar ôl y ffatri corsets, gyda llawer o bobl yn gweithio yno.

13.00 Pan ddechreuodd hi yn Ferodo, roedd y rhan fwyaf o bobl yn mynd i'r gwaith ar y bws, ond ar ôl blwyddyn neu ddwy, roedd ceir yn dechrau ymddangos, roedd pobl yn gallu prynu car, neu fotor-beic neu scwter, ac roedd y car park yn mynd yn fwy ac yn fwy achos roedden nhw'n ennill cyflog da i'r ardal yr adeg honno.

Cafodd hi hyfforddiant ond doedd iechyd a diogelwch ddim wedi dod i mewn. Cafodd hi ychydig o wythnosau i ddysgu a medru ennill bonws ar ben ei chyflog. Ei gwaith cyntaf oedd stensilo rhif ac enw Ferodo ar y stair treads a break linings, gyda phot paent a brwsio'r enw a’r rhif trwy stensil. Wedyn roedden nhw'n defnyddio peiriant stampio, meddai, ond yn y cyfnod cynnar dyna sut roedden nhw'n gwneud hyn.

Gwnaeth hi dipyn o gymorth cyntaf yno hefyd. Gan ddibynnu ar faint o waith oedd yn dod i mewn, roedden nhw'n symud i weithwyr ifanc.

O ran y bonws, roedden nhw'n eich teimio chi, meddai, ac roedd 'na ddyn yno efo watsh. "Ac oeddech chi'n chwarae rhain i fyny. Oeddech chi'n mynd slow fach neu oeddech chi'n tsiecio bod y paent yn iawn i fynd arno, jyst i wneud yr amser ychydig bach yn hirach, - smydgio fo, ac roedd hwnna yn second."

Roedd y brake linings a’r stair treads yn cael eu tsiecio, roedd pob dim yn mynd trwy wahanol tsieciau. Roedd y rhain yn mynd i wahanol garages ayyb yn y cyfnod. Cafodd hi ffrae efo rheolwr yn Ferodo, meddai, ac ar ôl pedair blynedd aeth hi i Ferrantis, tua 1967. Bu hi yno am ychydig o flynyddoedd ac wedyn priododd hi a chael plant.

Roedd Ferodo yn ffatri hyfryd, meddai. Roedd ei thad yn gweithio yn Ferodo hefyd ac roedd ei mam gartre. Ond torrodd y briodas dorri ac aeth pethau o ddrwg i waeth rhyngddi hi a'i thad yn y gwaith ac roedd Carol yn meddwl y byddai’n well iddi hi fynd oddi yna.

Roedd ffatri Ferodo yn enfawr, efo rhannau gwahanol a llwybr i gerdded rownd pob un ohonynt. Doedd y gweithwyr ddim yn cael mynd i mewn i lefydd arbennig oni bai eu bod nhw'n gwisgo'r dillad addas, achos roedd peiriannau yno ac roedd yn beryglus o bosib. Roedd tai bach i'r dynion ac i'r merched a roedd y rheina'n enfawr, meddai, nid fel y tai bach hen fasiwn 'Edwardian' yn y ffatri corsets. Roedd gan y gweithwyr locars eu hunan efo agoriadau, rhywbeth modern iawn. Roedd cawodydd yno ac roedd y genod y dod â dillad glân i mewn ar ddydd Gwener, yn golchi eu gwallt yno, ac yn mynd allan i'r dafarn yn syth o'r gwaith. Roedd 'na stafell gymorth cyntaf mawr yn yr office block, roedd y swyddfa ar ddwy lefel. Roedd y cantîn tu fas i'r ffatri, un mawr, gyda dau sitting. Roedd pawb yn teimlo fel teulu yno, meddai.

Roedd shifftiau hefyd - chwech tan ddau, dau tan ddeg a deg tan chwech, ac roedd rhai yn dod i mewn wyth tan bump hefyd. Roedd y cantîn yn agor ben bore i wneud brecwast i'r dynion a oedd yn dod on shift a mynd off shift. Roedden nhw'n gallu cael cinio poeth yno neu ddod â brechdanau i mewn. Roedden nhw'n cynnal partïon Nadolig hefyd yno, ac roedd plant y gweithwyr yn dod hefyd, ac roedd Sïon Corn yno ac anrhegion i'r plant.

22.00 Roedd Ferodo yn gyflogwyr da, meddai. Flynyddoedd wedyn, pan oedd y ffatri wedi mynd i berchenogion o America, roedd 'na streic fawr yno, o dair-pedair blynedd, pan drïodd y cwmni newydd dynnu cyflogau i lawr. Roedd gan y ffatri enw arall bryd hwnnw, mae'n debyg.

Doedd y genod ddim yn gwneud shifftiau ond yn gweithio o wyth tan bump. Roedd llawer o'r merched yn gweithio ar dasgau fel peintio a tsiecio neu yn y swyddfa neu'r cantîn, dim y gwaith trwm ar y peiriannau. Roedd yn waith brwnt iawn ac yn fudr ar y peiriannau. Roedd eich dillad yn drewi, meddai, hyd yn oed y bobl oedd dim ar y peiriannau. Roedden nhw'n gwisgo overalls hen ffasiwn ac roedd y cwmni yn rhoi'r rhain iddyn nhw, doedd dim rhaid i'r gweithwyr brynu'r eu overalls eu hunain.

Ar y peirannau mawr, roedd y dynion yn gwneud y brake linings yn un rhan o'r ffatri, a’u torri nhw i wahanol feintiau mewn rhan arall. Roedd 'na drills mawr yno i roi'r screws i mewn iddynt. Roedd Carol yn rhoi'r gwahanol liwiau, grey and cream, arnynt ac enw'r cwmni. Roedd hi wrth ei bodd yn gwnïo, meddai, ac aeth i yn ôl i wnïo flynyddoedd wedyn yn Laura Ashley yng Nghaernarfon.

Roedd yr iechyd a diogelwch yn iawn, o ystyried mai dyma’r chwedegau, e.e., mewn llefydd lle roedd llwch roedd rhaid i'r gweithwyr wisgo masgiau a sbectolau ar y driliau. Doedd Carol ddim yn gweithio mewn llefydd felly. Dydy hi ddim yn cofio llawer o ddamweiniau, chwaith, er ei bod hi wedi clywed bod ambell i ddyn wedi cwympo neu lithro, achos roedd rhai o'r peirannau mor fawr, roedd yn rhaid iddyn nhw ddringo i'r ail lefel arnynt, neu ddal eu llaw yn y peiriant. Dydy hi ddim yn gwybod os oedd unrhyw iawndal am ddamweiniau er bod 'na undeb yno ac oedd hi'n aelod "Wel, cyn i Margaret Thatcher ddod i mewn really, oedd 99% o'r factory yn union led 'te."

Roedd hi'n talu i fod yn aelod, dim allan o'i chyflog ond i'r union rep a oedd yn dod rownd bob dydd Gwener, a byddai o yn casglu'r arian ac yn arwyddo'r llyfr bach roedd y gweithwyr yn cario rownd efo nhw ac yn gofyn a oedd ganddynt unrhyw gwyn.

30.50 Unwaith roedd cwyn gan Carol pan oedd hi'n 16 neu 17 oed "Dw i ddim yn siwr os on i'n cymeryd o'n wrong, neu on i'n rhy shy, ond fasach medru galw fo yn sexual harassment, te. Roeddwn i'n hogan nobl, well built fel merch, a ges i goment gan ddyn. A wnath o upsetio fi a wnaeth un o'r genod hyn glywed a doedd hi ddim yn licio’r ffordd roedd o, ar adeg hynna, fel oedd pethau yn dod allan, dim yn fair ar ferched yn gweithio mewn lle oedd ‘na dynion hefyd, achos, ers talwm, yn y corset factory, roedd honno'n ferched i gyd. So pan on i'n dod allan i'r byd mawr, lle roedd dynion, a wel roedd 'na dynion o wahanol oed, a chafodd hwnnw fynd o flaen y management, cafodd o slap on the wrist, mewn ffordd, achos doedd o ddim wedi gwneud dim byd, wel roedd o wedi dweud, oedd, ond doedd o ddim wedi gwneud dim byd, ac roedd o wedi cael warning a doedd o ddim i fod i siarad â'r genod fel ‘na, ‘te, enwedig genod ifanc, ‘te.'

Roedd y genod hyn, meddai, wedi arfer gweithio mewn ffatrïoedd efo dynion, ond nid genod ifanc, ac roedd y rhain yn gorfod dysgu ac roedd o'n anodd, roedd yn rhaid iddynt ddysgu tra roeddynt yn tyfu fyny. Yr adeg honno, roedd hi’n eithaf cyffredin, i’r dynion wneud comments, neu wolfwhistlo fel maen nhw pan mae merch yn cerdded heibio building site. Mae Carol yn cofio pan oedd hi'n gweithio yn Laura Ashley ugain mlynedd yn ôl ac roedd y merched yn gwneud yr un peth os oedd hogyn yn cerdded trwy'r ffatri. "Oedden ni'n waeth na'r dynion yn Ferodo i ddeud y gwir. Dw i'n cofio llawer o hogiau ifanc yn blushio o glust i glust yn cerdded trwy'r factory yna."

Doedd dim llawer o ferched ifanc yn Ferodo ar y pryd meddai. Roedd Carol yn nabod un neu ddwy pan aeth i Ferodo ac yn dod â phobol o’r tu fas, roedd pobl yn dod i mewn o bob man i weithio, ar y bws, neu yn rhannu car efo cyd-weithwyr. Roedd Carol yn talu 50p y wythnos i fynd efo rhywun i'r gwaith, yn lle dal y bws. Roedd e dipyn yn bell i gerdded ond roedd yn rhaid iddynt hwy unwaith pan oedd eira mawr - os nad oeddech chi'n troi i fyny, doeddech chi ddim yn cael eich talu. Doedd o ddim yn rhy ddrwg achos roedd hi'n cerdded efo grwp mawr o gyd-weithwyr. Doedd y bobl o'r cefn gwlad ddim yn gallu cerdded y diwrnod hwnnw ond roedd pobl y dref yn iawn.

39.00 Roedd y gweithwyr yn cael gwyliau haf, Nadolig a gwyliau Pasg; roedd yn rhaid iddynt weithio bore Noswyl Nadolig. Dim cymaint o wyliau fel mae pobl yn ei gael heddiw. Yn ystod gwyliau’r haf, doedd hi ddim yn teithio, jyst mynd rownd y dref neu yn mynd allan i gefn gwlad ar gefn motor beic. Os oedd rhywun yn sâl, mae'n meddwl yn y cychwyn, doedden nhw ddim yn cael tal salwch gan y cwmni ond gan y llywodraeth. Dydy hi ddim yn cofio bod yn sâl erioed. Mae'n meddwl bod hawl iddynt gael amser i ffwrdd am angladd eu mam a’u tad ond doedd hynny ddim wedi digwydd pan oedd hi'n gweithio yno beth bynnag.

O ran yr asbestos yn Ferodo, doedd neb yn gwybod llawer am y peth ar y pryd, er mai asbestos oedd y stwff roedden nhw'n ei roi yn y brake linings, a dyna oedd yr arogl drwg yn y ffatri, meddai. Mae rhai o'r dynion a oedd yn gweithio efo'r asbestos wedi hawlio yn ddiweddar ond doedd neb yn gwybod ei fod o mor beryglus pan oedden nhw'n gweithio yno. Doedd y stwff ddim yn effeithio ar y merched, meddai Carol, achos doedden nhw ddim yn gweithio'n unionyrchol gyda fo. Roedd y dynion yn gwisgo masgiau ond ar adegau roedden nhw'neu tynnu nhw, e.e. i gerdded oddi yna. Dydy Carol byth wedi teimlo’n sâl achos gweithio yn Ferodo.

Dydy Carol ddim yn teimlo am y gwaith ffatri un ffordd na’r llall; roedd hi'n mwynhau cwmni'r merched. Doeddech chi ddim yn meddwl, ar y pryd, bod 'na pethau gwell i'w gwneud, meddai. Doedd hi ddim wedi pasio dim byd yn yr ysgol ac, fel llawer o ferched fel hi, gweithio, priodi a chael plant oedd y cynllun. Cwrddodd hi â'i gwr yn Ferodo a phriodon nhw yn 1968 a chafodd hi ei phlentyn cyntaf yn 1969; roedd ei mam gartref, felly aeth Carol allan wedyn i wneud tipyn o waith fel waitress i gael pres.

Yn y ffatri, doedd pobl ddim yn gallu siarad llawer, dim ond wrth y bobl roeddech chi'n gweithio drws nesaf iddynt, ac yn y cantîn. Cafodd hi ei symud o'r un lle i'r llall, meddai, gorfod mynd â phethau a phapurau o gwmpas, a doedd hi ddim yn nabod pawb wrth eu henwau, ond pawb wrth eu hwynebau.

Yn ogystal â pharti plant Nadolig, roedd 'na bartïon eraill hefyd, e.e. Côr Ferodo, sydd nawr yn Côr Caernarfon. Doedd Carol ddim yn aelod achos dydy hi ddim yn gallu canu, dim ond ar ôl 'dau neu dri pheint.' Roedd 'na dîm pêl droed yno a oedd yn chwarae ar gae ar bwys y ffatri. Roedd y ffatri yn ddigon mawr i gynnal partïon er eu bod nhw'n dechrau mynd allan i ryw hotel i ginio Nadolig fel roedd y ffatri yn tyfu. Roedd y gweithwyr yn cael cinio mewn shifftiau hanner awr hefyd pan oedd llawer o bobl yn gweithio yno.

48.00 Dydy hi ddim yn gallu cofio faint yn hollol oedd yn gweithio yno pan oedd hi yno ond roedd o'n sioc fawr, meddai, i ddod o ffatri fach corsets, lle roedd rhyw saith deg yn gweithio, i le mawr fel Ferodo a oedd yn 'massive.' Roedd mwy o ddynion na merched, achos “mwy na thebyg, gwaith oedd merched wedi arfer efo, cael gwneud, oedd gwnïo, offis, siopau.” Aeth ei chwaer fach i weithio yn Smiths yng Nghaernarfon.

Gwnaeth Carol adael Ferodo cyn priodi achos ffrae efo'r rheolwr. Roedd ei thad yn Albanwr ac yn methu siarad Cymraeg ac roedd ei rhieni yn mynd trwy broblemau efo'r briodas. Un diwrnod, roedd Carol yn cael poen misglwyf ac aeth i i'r stafell gymorth cyntaf i ofyn os oedd hi'n gallu mynd adre. Clywodd hi'r rheolwr personél yn siarad wrth y nyrs yn y Gymraeg ac yn dweud 'Be diawl mae'r hogan 'ma yn mwydro amdan.' A dywedodd rywbeth am ei rhieni. “Es i balistic, do. Am fod dad yn siarad Saesneg, oedd o'n meddwl mai Saesneg on i, achos oedd o ddim yn ‘n nabod i, so wnes i droi rownd a deud wrtho fo, wel, oedd na cymaint o bleeps ynddo fo, oedd o yn Gymraeg i gyd, a Saesneg oedd y bleeps, a wnaeth o ddeud wrtha i am fynd, a fi'n deud 'dw i'n mynd.' A wnes i gerdded trwy'r factory i gyd. 'Paid â botheran clocio allan', medda fo wrtha i. A dywedais i wrtho fo 'Dw i'n clocio allan,' medda fi, 'dach chi'n talu fi tra fi yn y building.' Oedden ni wedi cael ein dwyn i fyny yn yr iwnion, so on i'n gwybod be on i wneud 'te. Wnaeth mam yrru? mi yn ôl y diwrnod wedyn i apologisio am be on i wedi deud ond wnaeth o droi ar mam eto, ond ar mam ei hun tro ma, a finnau'n deud 'Does neb yn siarad wrth mam fi fel na.' So ar y bws oedd fi a mam, o na i Ferranti, a ches i job yna yn Ferranti.”

Ar ôl hyn, ac ar ôl i'w rhieni wahanu, cafodd mam Carol job yn Ferranti hefyd. Wnaeth Carol ddim gwneud cwyn am ddiswyddo annheg. Roedd hi'n teimlo'n falch yn cerdded allan trwy'r ffatri. Cafodd hi ei chyflog hefyd. “Swn i wedi cario'n ymlaen gweithio yno”, meddai hi, heblaw am hyn. Roedd hi'n meddwl bod y dyn yno ddim llawer o fonheddwr i siarad am ei mam, na neb arall, fel hynny. Roedd hi'n wyllt bod y dyn wedi deud y pethau annheg hyn yn y Gymraeg achos roedd o'n meddwl nad oedd hi’n deall. Gwnaeth hi ei alw o’n 'Red headed Welsh nationalist.' Y diwrnod wedyn, pan oedd ei mam wedi gorfodi iddi ymddiheuro, ond wnaeth y peth ddechrau eto a 'ges i slap gan mam' am y bleeps, meddai, wrth y giât, achos doedd hi ddim yn gallu mynd i mewn i'r ffatri.

Yn Ferranti, roedd hi'n gweithio yn yr adran a oedd yn gwneud pethau trydanol, dydy hi ddim yn cofio'n iawn, ond mae'n meddwl bod hi'n gwneud rhannau bach ar gyfer teleffonau. Roedd gan ei mam ddau o blant bach hefyd pan ddechreuodd hi weithio yn Ferranti (?). Doedd hi ddim yno am hir achos roedd hi'n priodi yn fuan. Cafodd hi'r plentyn cyntaf yn 1969 a'r ail yn 1971, ac roedd hi gartre ganddyn nhw am dipyn, ac wedyn mynd allan i wneud swyddi rhan amser fel waitress mewn siop, jyst i gael dipyn o bres ychwanegol i'r plant, ac wedyn cafodd hi swydd fel lollipop lady yn yr un ysgol lle oedd ei phlant yn mynd i'r ysgol. Roedd ei phlant 'y cyntaf yn mynd o ‘na a'r ola i ddod o na.' Roedd ei gwr yn dal i weithio yn Ferodo tan iddo gael ei ddiswyddo (redundancy) adeg y streic fawr (Camni Friction Dynamix streic 2000au). Ond roedden nhw wedi gwahanu a chael ysgariad ddeng mlynedd ar ôl priodi, yn rhy ifanc, meddai.

Ar ôl hynny, penderfynodd Carol fod hi ddim eisiau byw ar y llywodraeth, a chafodd hi swydd yn gwnïo mewn ffatri yn Llanberis, yn gwneud dillad i'r lluoedd arfog, cotiau ayyb. Adeg Rhyfel y Falklands cafodd hi ei tharo i weld ar y teledu y dynion oedd ar y Sir Galahad yn neidio i mewn i'r môr yn y siwtiau oren 'fel babygrow' efo hood roedden nhw wedi’u wneud yn y ffatri. Roedd merched y ffatri wedi bod yn gwneud overtime, ac yn gweithio'n galed i gael y siwtiau hyn yn barod ar gyfer y rhyfel. Roedd hi'n gallu deall beth roedd ei mam wedi dweud wrthi am adeg yr Ail Ryfel Byd, pan oedd merched yn gweithio mewn ffatrïoedd ac roedd y dynion yn mynd i ffwrdd i ymladd - roedd ei mam, adeg yr ail ryfel, yn gweithio mewn ffatri, tu fas i Gaernarfon, yn tsiecio bomiau. I Carol, roedden nhw i gyd yn ennill mwy o arian trwy’r overtime, ond wrth weld y dynion ar y Sir Galahad roedd hi'n ypset iawn, achos hyn; a bod rhai o'r hogiau o Gaernarfon, gan gynnwys un a oedd wedi marw ar y llong ‘na. Yn y ffatri, doedden nhw ddim yn gwneud y siwtiau ond yn gwnïo’r deunydd ar eu cyfer, ac yn gwneud y 'joints' yn 'waterproof' gan roi tâp du oddi fewn gyda glud arno fo, a thâp arall y tu allan. Roedd y gwaith yn fyw diddorol ar ôl gweld y dynion yn y rhyfel yn gwisgo'r siwtiau hyn. Glyn Protective Clothing oedd y ffatri hon a caeodd hi ychydig o flynyddoedd wedyn a chafodd hi redundancy.

1.03 Roedd y cwmni wedi dweud ei bod hi'n mynd i gau ac felly roedd gan y gweithwyr amser i ffeindio rhywbeth arall. Clywodd Carol bod Laura Ashley yn agor yng Nghaernarfon a chafodd hi swydd yno. Yr adeg honno, mae'n galw ei hun yn 'ddynes mewn oed' ond yn ei thridegau yr oedd hi ond roedd genod ifanc yn y cyfweliad, a dywedodd hi wrth y manager 'Well, I've come here for an interview but I can see you've got a lot of young girls.' 'Well, you've had your children. I've just looked at her hand, she's engaged, she'll be getting married.' Bydd hi'n anodd dewis, meddai Carol wrtho. Roedd yn rhaid iddynt gael tro ar y peiriant. Yn Glyn Protective, dywedodd, roedd y peiriannau'n hen ond roedden nhw'n gwneud y tric; yn Laura Ashley roedd y peiriannau yn newydd sbon ac roedd Carol yn panicio bod hi ddim yn gallu eu defnyddio nhw. Ond gwnaeth hi'n iawn a chafodd hi'r swydd. Ffugio oedd hi, meddai hi, bod hi'n gallu gwneud y gwaith. Roedd hi angen y swydd achos bod ganddi ddwy ferch gartre. Bu hi yn Laura Ashley am 13 o flynyddoedd, o tua’r 80au cynnar tan ddechrau'r 90au ac mae’n dal mewn cysylltiad efo'i chydweithwyr ar Facebook. Cafodd hi redundancy hefyd o'r ffatri hon hefyd, pan werthodd Laura Ashley i gwmni a oedd yn gwneud dillad i Marks and Spencers. Roedd y cwmni newydd wedi addo cadw'r gweithwyr mewn gwaith ond roedden nhw wedi mynd lawr i ryw 90 o dros ddau gant.

Roedd Carol yn meddwl y byddai hi'n iawn ond cafodd y ffatri ei chau yn yr un flwyddyn ag y caeodd Laura Ashley (2004?). Roedd hi'n union rep ar y pryd a gofynnodd y BBC iddi os fyddai hi'n gwneud rhaglen am ffatrioedd a oedd yn mynd â'i gwaith allan o'r wlad. Cwrddodd hi a merched eraill â pherson y BBC yng ngwesty'r Castell yng Nghaernarfon ac roedd yn gofyn iddi beth roedd hi a’r merched eraill yn ei wneud ar ôl cael eu diswyddo. Atebodd Carol ei bod hi wedi cael gwaith rhan amser yn y Royal Hotel, rhywun arall wedi mynd i waith cyfrifiadurol, ond roedd hi'n anodd mynd lawr ar ôl ennill cyflog da, er mai 'pocket money' oedd hi'n ei gael yn Laura Ashley. Aeth y BBC â'r merched i Marks and Spencers yn Llandudno, rhoi arian iddyn, a gofyn iddynt fynd i mewn, prynu dillad iddynt tsiecio'r labeli. Doedden nhw ddim y caniatáu i'r cameras fynd i mewn i'r siop felly prynon nhw'r dillad a mynd â nhw tu fas. Doedd dim un o'r dillad wedi’i wneud yn yr UK ac roedd y safon yn wael iawn. Dydy hi ddim yn cofio enw'r rhaglen. Cafodd hi reunion efo rhai o ferched Laura Ashley ddwy flynedd yn ôl yn y clwb pêl droed yng Nghaernarfon. Dydy hi ddim mewn cysylltiad gymaint efo’r bobl oedd hi'n gweithio efo nhw yn Ferodo.

Wrth edrych yn ôl, doedd y ffatri ei hun ddim yn lle braf i weithio ond roedd y cwmni gafodd hi a'r ffrindiau a'r hwyl mae wedi ei gael. Mae ganddi atgofion da am Laura Ashley, y ffatri yn tyfu i gyflogi dros ddau gant o bobl, a'i merch hi’n mynd lawr efo'r cwmni i chwarae netball yn Carno. Roedden nhw'n cael partïon da, fel fancy dress. Mae'n cofio un Nadolig yn y cantîn, lle roedd yn cael dau sitting achos roedd y cwmni mor fawr. Roedd ei merch yn gweithio yno hefyd ac, am ryw reswm, daeth y ferch yma i eistedd gyda'i mam yn lle eistedd ar fwrdd arall gyda'i ffrindiau. Daeth Sïon Corn iawn, dyn tenau wedi gwisgo i fyny, ac roedd o'n deud bod rhywun yn cael pen-blwydd arbennig. 'Kissogram' oedd o, a wnaeth o ddeud wrth Carol 'unwrap me.' Roedd ei chydweithwyr wedi trefnu hyn ar gyfer ei phen-blwydd 40 oed ac roedd hyn yn y cantîn yn y ffatri o flaen dau gant o bobl a phawb yn chwerthin, ac roedd pawb yn y ffatri yn gwybod am hyn heblaw Carol.

Ar ail ran y tap, roedd Carol yn son am arfer yn ffatri Laura Ashley, Caernarfon, yn y 1990au. Pan oedd rhywun yn priodi, roedd yn rhaid iddynt gerdded rownd y ffatri mewn dillad yr oedd y gweithwyr wedi’u gwneud iddynt. Y diwrnod pan oedd hi'n priodi, roedd hi'n gwybod bod hyn yn mynd i ddigwydd iddi ac roedd yn rhaid iddi eistedd ar ei mashîn drwy'r dydd mewn ffrog hyll Laura Ashley. Pan ddaeth yr amser i glocio allan, roedd hi'n bwriadu newid i mewn i'w dillad ei hun ond pan aeth hi allan trwy'r drws, roedd pawb yn aros amdani, bob ochr, a wnaethon nhw daflu wyau, saws coch, finegr, botymau, pob math o bethau drosti. Roedd hi'n drewi yn cerdded adre.

Hyd: 1 awr 20 munud

http://www.lleisiaumenywodffatri.cymru/uploads/VN021.2.pdf