Disgrifiad

Neges Heddwch ac Ewyllys Da 1932. Pennawd: “Neges Radio Ieuenctid Cymru i’r Byd.”
Themâu: radio, “y mae’r byd yn awr megis un pentref mawr gan ein bod wedi ein dwyn o fewn clyw i’n gilydd”, arloeswyr, “am y rhai a roddodd adenydd i eiriau ehedeg o gyfandir i gyfandir. Hwynthwy oedd arwyr ffydd a gweledigaeth a gynorthwyodd i wneuthur ein byd yn gymdogaeth.”
Dyfyniad: “Bydded i ni, felly, fechgyn a merched, mewn meddwl, gair a gweithred, ymdrechu a’n holl egni fod y negesau a anfonir o’n gwledydd ein hunain, bob amser, yn negesau cyfeillgarwch a thangnefedd.”

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw