Deiseb Heddwch Menywod Cymru
Dyddiad ymuno: 02/05/24
Amdan
Yn 1923 gydag erchyllterau'r Rhyfel Byd Cyntaf yn dal i fod mewn cof cododd cenhedlaeth gyfan o ferched yng Nghymru yn erbyn unrhyw wrthdaro pellach, a threfnwyd ymgyrch arlosol ganddynt i geisio sicrhau heddwch byd. Arwyddwyd y ddeiseb gan 390,296 o ferched, trwy Undeb Cynghrair y Cenhedloedd Cymru - a oedd, meddir yn 7 milltir o hyd - yn galw ar i America ymuno ac arwain y Cynghrair y Cenhedloedd newydd.
Mae 2023 yn nodi canmlwyddiant yr ymgyrch anhygoel hon. Gellir darllen am Apêl y Merched yn: https://www.wcia.org.uk/cy/wcia-news-cy/wcia-history-cy/ysbrydolwyd-gan-annie-hanes-deiseb-merched-dros-heddwch-i-america-1924/
Tudalen Gartref Adnoddau: https://www.wcia.org.uk/cy/treftadaeth-heddwch/deiseb-menywod/
Grwpiau canmlwyddiant sy'n dymuno defnyddio delweddau o'r casgliad hwn, rhowch gredyd i 'WCIA - Archifau'r Deml Heddwch' oni nodir yn wahanol.
WCIA (Canolfan Gymreig Materion Rhyngwladol) yw olynydd Undeb Cynghrair y Cenhedloedd Cymru (WLNU) heddiw, a gydlynodd yr ymgyrch Apêl Heddwch ac a gynhyrchodd/cyhoeddodd y rhan fwyaf o'r deunyddiau archifol a gynhwysir yn y casgliad hwn.
Gwefan: https://www.wcia.org.uk/cy/academi-heddwch-cymru/deisebheddwch/ (Yn agor mewn ffenestr newydd)