Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Bidog Ffrengig - dyma Sarah Crosbie yn cofio: “Roedden nhw’n bartneriaid yn aml â bataliynau Ffrainc. Dwi’n meddwl eu bod nhw wedi cyfnewid arfau ar y diwedd. Mae’r arysgrif yn nodi ‘made in St Etienne’.”

Roedd Alfred Reginald Price, a alwyd yn Reginald, yn 17 oed pan ymrestrodd ar 13 Hydref 1914 gyda’r Pumed Catrawd Glosters Wrth Gefn.
Roedd yn ofynnol bod yn 18 oed i gofrestru. Fodd bynnag, ymrestrodd llawer o ddynion ifanc pan oeddent o dan oed. Roedd Reginald newydd adael yr ysgol ac nid oedd ganddo rôl iawn eto yn siop ei dad lle roedd ei ddwy chwaer yn gweithio, felly ymrestrodd â’r Fyddin.
Dyma Sarah Crosbie yn adrodd hanes ei hen daid yn ymrestru:
“Cofrestrodd pan oedd yn 17 oed a deg mis. Dywedodd ei fod yn 18 oed a deg mis, a dyna oedd ei stori drwy gydol y rhyfel. Mae’n sôn yn ei ddyddiadur am ddathlu ei ‘ben-blwydd milwrol’.” Hyfforddodd Reginald fel saethwr cudd yn y DU cyn gadael am Ffrainc ar 24 Mai 1916. Cafodd ei anafu ddwywaith a chafodd y fedal am ddewrder am adfer gwn o faes y gad.
Cafodd Reginald ei ryddhau ym mis Chwefror 1919.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw