Blwch snisin yn eiddo i Daniel Collard
Disgrifiadau
Roedd Daniel Collard yn löwr o Lynebwy.
Ymunodd â Chorfflu Meddygol Brenhinol y Fyddin (RAMC) ym mis Hydref 1914.
Dyma Alun Davidson yn egluro pam yr ymunodd ei hen hen ‘Ewythr Dan’ â’r RAMC:
“Roedd ei deulu’n ymwneud yn fawr ag Ambiwlans Sant Ioan. Roedd ei frawd, fy hen daid, yn ‘ddyn ambiwlans’ yn y pwll glo.”
“Roedd Ewythr Dan wedi bod ar sawl cenhadaeth heddwch i’r Almaen cyn y rhyfel. Fel glöwr, byddai wedi cael ei eithrio rhag gorfodaeth filwrol gan ei fod yn gwneud gwaith o bwysigrwydd cenedlaethol, felly mae’n amlwg, er nad oedd yn awyddus i ymladd, roedd eisiau gwasanaethu mewn rhyw ffordd.”
“Roedd ganddo’r blwch snisin, y clo a’r dis fel glöwr. Roedd yn defnyddio’r clo ar gyfer ei offer, a oedd yn cael eu gadael dan y ddaear rhwng sifftiau. Y cod ar gyfer y clo cyfunrhif yw RAMC ar gyfer Corfflu Meddygol Brenhinol y Fyddin.”
“Aeth Ewythr Dan ar y cenadaethau heddwch i’r Almaen, cyn i’r rhyfel ddechrau, gan ei fod yn ymwneud ag addysg i oedolion a’r mudiad dirwest.”
Aeth Daniel i’r Ffrynt Orllewinol yn ystod gaeaf 1916. Bu farw o’i anafiadau ger Ypres ar 26 Gorffennaf 1917.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment