Cerdyn post o Ddinbych y Pysgod yn eiddo I Joseph Daniel Jones, glöwr a milwr Rhyfel Byd Cyntaf
Disgrifiadau
Roedd Joseph Daniel Jones yn löwr o Abercwmboi. Gwasanaethodd yn Ffrainc a Gwlad Belg.
Dyma Elisabeth Jones yn cofio ei thaid ‘Jos’:
“Roedd yn löwr. Dwi ddim yn gwybod pam yr aeth i’r rhyfel gan ei fod wedi’i eithrio oherwydd ei waith. Dwi ddim yn gwybod os gwirfoddolodd. Doedd o ddim yn siarad am y peth. Daeth yn un o’r pethau ‘na yn y teulu, ‘Fydd taid ddim yn siarad am y rhyfel’”.
“Yn sicr, roedd yn gas ganddo’r rhyfel. Roedd yn ddyn mwyn ac wrth ei fodd â barddoniaeth Gymraeg; doedd o ddim yn addas i fod yn filwr. Yn ôl bob sôn, yr unig beth iddo ei ddweud amdano oedd iddo gael gwaith yn plicio tatws, ac yna roedd yn hapus...efallai ei fod wedi dweud hynny i gysuro pobl. Wnaeth o erioed ddweud pa mor galed oedd y rhyfel na beth ddigwyddodd.”
Yn ystod y rhyfel, anfonodd Jos gardiau post at ei deulu er mwyn iddyn nhw wybod ei fod yn ddiogel. Mae un cerdyn post yn mynegi ei ofn ynghylch methu â chael gwaith yn y pyllau glo ar ôl iddo ddychwelyd.
Dyma Elisabeth Jones yn cofio: “Mae’n debyg iddo roi’r albwm at ei gilydd ei hun ar ôl iddo ddychwelyd. Roedd yn sensitif iawn ac roedd yn ysgrifennu’n aml. Dyma’r math o beth y galla i ei ddychmygu’n ei wneud.
Ar ôl blynyddoedd yn gweithio fel glöwr, bu farw Joseph o silicosis.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment