Wrn colerog, dechrau’r Oes Efydd
Wrn colerog, dechrau’r Oes Efydd
Disgrifiadau
Wrn colerog, dechrau’r Oes Efydd
Jacket’s Well, Trefyclo, Powys
2000 – 1500 CC
Cafodd yr wrn hwn ei ddarganfod yng nghanol tomen gladdu gron. Roedd wedi cael ei osod â’i ben i lawr dros esgyrn wedi’u hamlosgi, oedd yn perthyn i berson 11-16 oed a menyw hŷn.
Mae ganddo goler gul wedi’i haddurno ar y tu allan gyda chortyn troellog mewn siâp cynrhon. Caiff hyn ei wneud drwy lapio cortyn wedi’i blethu o amgylch ei hun, cyn ei bwyso mewn i’r clai. Mae rhesi o olion bysedd ar du mewn yr wrn, ar y goler a’r ysgwydd.
NMC acc. no. 38.573/1
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment