Skip to main content

Crochenwaith o'r Oes Efydd a gloddiwyd yng nghladdfa Bedd Branwen, Sir Fôn

Disgrifiadau

Mae'r yrnau crochenwaith hyn yn dyddio o Oes yr Efydd ac fe'u darganfuwyd yn y gladdfa a elwir yn 'Bedd Branwen', gerllaw Afon Alaw, Llanbabo, Sir Fôn.

Erbyn y flwyddyn 1600 C.C. roedd yn arfer cyffredin i amlosgi cyrff. Yn dilyn y seremoni amlosgi, byddai'r lludw a'r esgyrn naill ai yn cael eu casglu a'u claddu mewn twll yn y ddaear neu'n cael eu gadael ar yr wyneb. Weithiau byddai'r lludw yn cael ei roi mewn yrnau crochenwaith fel y rhai a ddangosir yma.

Roedd y ddau wrn amlosgi mawr a welir yma yn perthyn i ddwy gladdedigaeth gwahanol. Mae coler yr wrn amlosgi mwyaf (a ddaw o gladdedigaeth L) wedi ei haddurno gyda phatrwm rhaff. Darganfuwyd potyn atodol gerllaw'r gladdedigaeth hon a oedd yn cynnwys esgyrn clust baban. Mae coler yr wrn amlosgi lleiaf (a ddaw o gladdedigaeth C) wedi ei haddurno gydag endoriadau miniog. Er na ddaethpwyd o hyd i unrhyw botiau atodol gerllaw'r gladdedigaeth hon, roedd glain muchudd wedi ei osod ar waelod yr wrn fel bedd-offrwm.

Potyn atodol yw'r wrn lleiaf a welir yma. Byddai'r potiau bychain hyn yn aml yn cael eu gosod gerllaw'r wrn amlosgi ac mae'n bosibl iddynt gael eu defnyddio i ddal bwyd neu ddiod. Daethpwyd o hyd i'r potyn hwn gerllaw claddedigaeth H ac roedd yn cynnwys pridd tywyll ac esgyrn clust baban newydd-anedig.

Owner:
Gwynedd Museum and Art Gallery, Bangor
Crëwr:
Gwynedd Museum and Art Gallery, Bangor
Gwybodaeth drwydded
Reproduced by permission of Amgueddfa ac Oriel Gwyned
Copyright Details:
Amgueddfa ac Oriel Gwynedd, Bangor 2002
Publisher Ref:
GTJ17813
Eitem wedi’i llwytho:
19/1/2010
Date originally created:
1600
BC
Gwelediadau:
2162
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment