Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Cwpan, dechrau’r Oes Efydd

Breach Farm, Llanfleiddan, Bro Morgannwg

1950-1750 CC

Cafodd y gwpan fach hon ei darganfod gan yr Archeolegydd W. F. Grimes o’r Amgueddfa Genedlaethol nôl ym 1938 wrth gloddio beddrod tomen gron. Roedd y gwpan yn rhan o gasgliad o wrthrychau cywrain a gladdwyd gyda phedwar corff wedi’u hamlosgi. Roeddent i gyd dros 18 oed pan fuont farw – dau wryw, un fenyw ac un corff anhysbys. Hefyd yn y bedd roedd tri ar ddeg o bennau saethau tafod ac adfach fflint, dau lyfnwr coesau saethau carreg, bwyell efydd, dagr a chŷn.

Mae’r addurn ar y gwpan hon wedi’i wneud o linellau endoredig. Mae’r patrwm wedi cael ei ddadansoddi’n fanwl ac mae’n ymddangos ei fod wedi’i lenwi yn wreiddiol gydag ocr coch ac asgwrn gwyn wedi’i losgi bob yn ail. Roedd y patrwm haul ar waelod y gwpan i fod i gael ei weld, ac mae’r ddau dwll bach ar ochr y gwpan yn awgrymu y gallai fod wedi cael ei hongian neu ei chlymu fel rhan o ddefod angladdol.

NMW acc.no. 38.37/1

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw