Skip to main content

Tafarn y Bull, Denbigh

Disgrifiadau

Tafarn y Bull, a godwyd tua dechrau'r ail ganrif ar bymtheg, Yn wreiddiol, yr oedd gan Dafarn y Bull ffenestri mwliwn a chroeslathog o gerrig (mae un ohonynt yn y talcen gorllewinol wedi'i llenwi). Erbyn hyn, mae ganddi ddalennau tridarn a luniwyd yn gynnar yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae i'r adeilad wal ganolog, ac iddi ffrâm o bren, rhwng y tu blaen a'r cefn. Yn y canol yn y cefn mae lle tân gefn-gefn (a dorrir gan goridor modern) a oedd gynt, mae'n debyg, yn fynedfa lobi yn y cefn, ar hyd yr un llinell â'r cyntedd ymwthiol, ac iddo ffrâm o bren, yn y tu blaen. Mae'n fwy na thebyg i'r rhan flaen gael ei rhannu'n gyntedd cul ac ystafell bob ochr iddo, sef, ar y chwith, neuadd a gâi ei gwresogi ac, ar y dde, barlwr na châi ei wresogi, ynghyd â mynediad i risiau siafft deniadol.
Mae i'r grisiau hynny ochrau a gerfiwyd yn gywrain, balwstrau a gerfiwyd yn fflat, a physt sgwâr a blaenau a chrogaddurnau moldiedig (y blaenau wedi'u tynnu). Ar bob postyn mae motiff cerfiedig o law mewn maneg yn cyfleu enwogrwydd Dinbych am wneud menig. Mae'n fwy na thebyg i'r ystafelloedd cefn fod yn gegin ar y chwith a man gwasanaethu ar y dde ynghyd â mynediad i seler o dan y parlwr. Mae ystafell ar yr ail lawr, sydd yn rhannol dros y cyntedd, wedi cadw coler â chwpl bwaog a thulathau â gafaelfachau.

Owner:
Unknown
Crëwr:
Unknown
Gwybodaeth drwydded
Eitem wedi’i llwytho:
2/8/2013
Gwelediadau:
1409
Ffefrynnau:
0

More items with these tags

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment