Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Mary Elizabeth Phillips oedd y fenyw gyntaf i ennill cymhwyster meddyg o Goleg Prifysgol Caerdydd ar droad y ganrif, a daethpwyd i’w hadnabod fel Mary 'Eppynt' Phillips, gan ddefnyddio enw’r mynydd ger y man lle ganed hi ym Merthyr Cynog, ger Aberhonddu. Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, fe fu’n trin milwyr a anafwyd mewn ysbytai ar draws Ewrop, gan gynnwys Calais, Malta a Serbia, yn ogystal a chodi arian sylweddol ym Mhrydain ar gyfer gweithgareddau Ysbyty Menywod yr Alban. Mae’r llyfr lloffion hwn yn cynnwys telegramau, cardiau post, toriadau a ffotograffau o’r cyfnod. Yn y llun yma, mae'n gwisgo gwyn, i'r chwith o'r basgedi picnic.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw