Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Mary Elizabeth Phillips oedd y fenyw gyntaf i ennill cymhwyster meddyg o Goleg Prifysgol Caerdydd ar droad y ganrif, a daethpwyd i’w hadnabod fel Mary 'Eppynt' Phillips, gan ddefnyddio enw’r mynydd ger y man lle ganed hi ym Merthyr Cynog, ger Aberhonddu. Y telegram hwn a sbardunodd ei chysylltiad cyntaf a’r Rhyfel Byd Cyntaf, pan gafodd gais gan Ysbyty Menywod yr Alban er Gwasanaethu Dramor, i deithio i Calais i helpu yn yr ysbyty a oedd newydd gael ei sefydlu yno. Anfonwyd y telegram ar 8 Rhagfyr ac roedd yn Calais erbyn Dydd Nadolig. Yna, aeth ymlaen i wasanaethu mewn ysbytai ar draws Ewrop, gan gynnwys Serbia, Malta a Corsica.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw