Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Dengys y llun ddau garcharor rhyfel: Herbert Blake mewn gwisg morwr, gyda'i gap yn dangos enw HMS Pembroke, a dyn sydd mewn gwisg Cossack. (Mae'n bosibl ei fod yn filwr Rwseg, gan fod carcharorion o Rwsia yn yr un gwersyll, neu mae'n bosibl bod y ddau mewn gwisg ffansi). Danfonwyd y cerdyn at chwaer Herbert, Annie Moore (a oedd yn byw yn Bolsover). Mae'r ysgrifen mewn pensil yn darllen: "8673 Pte H Blake, 2nd Suffolk Regiment, Gefangenen, Doeberitz, Deutschland". [Gefangenen Lager Doeberitz, sef gwersyll carcharorion Doeberitz - tua with milltir i'r gorllewin o Berlin.] Mae stampiau arno: "15 Doeberitz Gepruft F.A." [Gepruft - yn golygu bod y sensor wedi pasio'r cerdyn]; "___ Schwedtke, Schwarzkollm"; "Kriegsgefangenensondung" [Carcharor Rhyfel] a "London F.S. PAID Nov 3 17".

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw