Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.
Disgrifiad
Roedd Norbert Wagner yn fab i Max a Rosa Wegner ac fe'i ganed yn Fienna, Awstria ar 9 Gorffennaf 1922. Dihangodd Norbert o Awstria yn 1936 gan wneud ei ffordd i Ferthyr Tudful. Yr oedd wedi ei noddi gan y Parch. Emlyn Davies, gweinidog Capel y Stryd Fawr, oedd yn byw yn 29 The Parade, Thomastown. Mynychodd Norbert Ysgol Ramadeg Castell Cyfarthfa ac yno y bu iddo gwrdd a Rita Phelps a disgyn mewn cariad a hi - roedd Rita'n ddisgybl yn yno yn ysgol y merched. Roedd ei thad yn ystlyswr yn Eglwys Quar ac wedi ymladd yn y Rhyfel Byd Cyntaf, ac felly doedd e ddim yn hapus o gwbl i ddeall bod ei ferch annwyl yn canlyn gyda bachgen oedd yn siarad Almaeneg. Fodd bynnag, cynhesodd tuag ato ymhen ychydig. Ym mis Gorffennaf 1940, pan oedd yn 17 oed, roedd Norbert yn chwarae pel-droed ar gae'r Pandy y tu mewn i Barc Cyfarthfa pan gafodd ei arestio yn ddisymwth am fod yn "undesirable alien“. Cafodd ei anfon i Ganada (fwy na thebyg o Hoyton, Liverpool ar fwrdd y Duchess of York, yn un of 2,500 o bobl wedi eu caethiwo). Fe'i hanfonwyd i Wersyll Q Montieth POW sydd rhyw 700 km i'r gogledd o Ontario. Roedd bellach yn gararor Prydeinig.Anfonwyd y cerdyn post hwn gan Norbert at Rita ar 2il o Awst,1940 : “My dear Rita, When I left you on Monday night I never thought that this would be final and that I would not dance with you on Tuesday night. I was taken straight to a camp near Liverpool and a week later to Canada into this camp. I feel very well as far as health goes but I must not think much about you and the old days in Merthyr because the memories are too nice. [Name illegible] is here too. How are you! And what is going on in Merthyr? I hope you still remember me a bit because I always think of you, little girl. Please write very soon and long. Put no signs [?] whatever and no photos in the letter; that is prohibited; and write no politics, please. My name and address in block letters. One day I may return and then I shall cash in all the kisses I can only send you on paper for now. If you still want me to, that is. Cheerio for now Phelpsie. NORBERT WEGNER, CAMP: Q …”Cafodd Norbert ei asesu a'i gael yn gymwys i'w ryddhau o dan categori 12 - “Internees accepted for enlistment to the Auxiliary Military Pioneers Corps”. Ymrestrodd nifer o Iddewon Almaenig ac Awstraidd a oedd wedi dianc rhag cael eu herlyn, a daethpwyd i'w hadnabod fel "The King's Most Loyal Enemy Aliens”. Roedd hi'n arbennig o beryglus iddynt gan god peryg iddynt gael eu saethu pe baent yn cael eu dal. Cafodd Norbert ei ryddhau ar Mawrth 1941 a'i ddychwelyd i Brydain ar fwrdd yr S.S. George, gan gychwyn ar y daith ar 5 Mawrth. Ymrestrodd gyda'r Pioneer Corps ac erbyn 1 Ebrill 1941 fe'i cafodd ei hun yn Douglas, Ynys Manaw, yn gorporal yn y Fyddin Brydeinig. Yn ddiweddarach fe'i gwnaed yn ringyll yn yr Intelligence Corp, a hynny fwy na thebyg oherwydd ei fod yn gallu siarad Almaeneg yn rhugl.Ymwelodd Norbert a Merthyr ac aeth a Rita i fwyty Peter Pan a arferai fod gyferbyn a Neuadd y Dref. Dywedodd wrthi y byddai i ffwrdd am beth amser ac mae'n bosib na fyddai'n gallu cadw mewn cysylltiad. Sylwodd Rita nad oedd ganddo fathodyn ar ei iwnifform. Gwyddom fod Norbert yn aelod o Special Operations Executive (SOE) Churchill. Newidiwyd ei enw i Norman Willert er mwyn cuddio ei wreiddiau Iddewig. Ni wyddom pa waith roedd yn ymgymryd ag ef, ond mae'n bur debyg iddo gael ei anfon i'r Iseldiroedd er mwyn sefydlu cysylltiad gyda'r Gwrthsafiad yno, cyn i'r Cynghreiriaid wthio ymlaen i'r Iseldiroedd: bu unedau SOE yn gysylltiedig gydag ymgyrchoedd i gasglu gwybodaeth o'r fath drwy gydol y cyfnod hwn.Cafodd Norbert ei ladd tra'n ymladd pan oedd yn 22 mlwydd oed, ar y 1af neu'r 2il o Fedi 1944. Ar adeg ei farwolaeth, roedd y Cynghreiriaid newydd dorri'n rhydd o Normandi ac yn lledaenu i weddill Ffrainc a Gwlad Belg. Cafwyd dadl ffyrnig ymhlith cadlywyddion y Cynghreiriaid ynghylch beth fyddai'r cynllun gorau ar gyfer goresgyn yr Almaen: prun ai i ymosod yn araf deg ar draws ffrynt eang rhwng Gwlad Belg a de Ffrainc, neu i lansio un ymosodiad ar draws y Rhine, fwy na thebyg trwy'r Iseldiroedd. Tra oedd Maeslywydd Montgomery yn datblygu cynlluniau ar gyfer yr hyn a ddaeth yn y pen draw yn 'Operation Market Garden', doedden nhw ond megis wedi dechrau cymryd y camau cychwynnol pan fu farw Norbert.O gofio nad oes gan Norbert unrhyw fedd y gwyddys amdano, mae'n bosib bod yr awyren yr oedd yn cael ei gludo ynddi wedi ei saethu i lawr, neu ei bod wedi bod mewn gwrthdrawiad o fath, neu iddo gael ei ollwng mewn lle anghywir ac wedi marw mewn damwain wrth geisio glanio: o bosib yn dod i lawr mewn camlas neu ddyfrffordd tyfn nad oedd modd dianc ohoni. Ceir cofnod ohono ar Gofeb Groesbeek, sydd ger Nijmegen (gweler y ddolen isod).Cofir amdamo ar Gofeb Rhyfel Byd Cyntaf sydd ar lawr gwaelod Castell Cyfarthfa, lle cofodir ei enw fel Norbert Wagner, ac y mae ar restr anrhydeddau Castell Cyfarthfa: (gyda'i enw yn cael ei sillafu mewn tair ffordd wahanol) - gweler: http://www.roll-of-honour.com/Glamorgan/CyfarthfaCastleSchool.html . Cafodd yr hanes hwn ei ddwyn ynghyd gyda gwybodaeth a ddarparwyd gan nith Rita, Joyce Bourne, a wnaeth hefyd ddarparu delweddau o'r cerdyn post, Norbert a Rita. Darparwyd cyngor militaraidd gan Jeremy Konsbruck. Cafwyd ei ddyddiad yn gadael Austria o restr anrhydeddau ysgol Castell Cyfarthfa. Atgynhyrchwyd y cerdyn 'alien index card' gyda chaniatad caredig.Ffynhonnell: The National Archives; Kew, London, England; HO 396 WW2 Internees (Aliens) Index Cards 1939-1947; Reference Number: HO 396/133.
Sylwadau (0)
Rhaid mewngofnodi i bostio sylw