Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Roedd David Jones, a oedd yn adnabyddus fel 'Dei Llwyn Cwbl', yn fab i Robert a Margaret Jones o Fferm Llwyn Cwbl, Llangwm, Uwchaled. Roedd yn delynor dawnus a dderbyniodd hyfforddiant gan Nansi Richards, yr enwog 'Telynores Maldwyn'. Yn ystod y rhyfel cafodd ei orfodi i ymuno â'r fyddin, gan ddod yn aelod o Fataliwn Cyntaf y Gwarchodwyr Cymreig (Welsh Guards, Preifat rhif 2101). Bu farw o'i anafiadau ar 7 Ionawr 1917, yn 26 oed, ac fe'i claddwyd ym mynwent filwrol Mount Huon, Le Treport, Ffrainc. Yn dilyn ei farwolaeth, dadorchuddiwyd plac er cof amdano yng Nghapel Gellioedd ac ysgrifennodd sawl bardd lleol amdano, er enghraifft hwn gan y Preifat David Ellis, Penyfed: Brwd alaw ei bêr delyn - ddistawodd ys tywyll ei fwthyn. Hyd erwau gloes - drwy y glyn Aeth o ymdaith a'i emyn. Fe wasanaethodd Preifat David Ellis gyda'r RAMC, ac fe gollodd yntau hefyd ei fywyd yn y Rhyfel Mawr. Dengys y lluniau hyn David Jones â'i delyn, a David yn gwisgo cilt.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw