Skip to main content

Sgwrs rhwng Elenora, [Edward] Howell a Caroline Williams o Fferm Ysgiach Ganol, Felindre, Abertawe â Swyddog y Rhaglen Datblygu Gwledig, Vicki Thompson, am brisiau presennol y farchnad a chanfyddiadau ynghylch sut y mae'r cyhoedd yn gwerthfawrogi eu gwait

Disgrifiadau

[Edward] Howell: [Lloi…] eu gorffen nhw’n barod ar gyfer y bwtsiwr, ond os ân nhw i faint a chydffurfiad arbennig ar yr anifail, maen nhw’n falch gyda beth gân nhw, ddôn nhw lan y flwyddyn wedyn. Mae hi’r un peth gyda defaid.   
Caroline: Ond byddan nhw’n gofyn i chi… pryd mae gyda chi rai ar gael, ac am eich bod chi’n dueddol o loua yr un amser bob blwyddyn, maen nhw’n tueddu i wybod pryd, chi’n gwybod, pryd maen nhw’n mynd i ddod, felly byddan nhw’n dechrau mynd i’r mart, byddan nhw’n gofyn i chi pryd ydych chi’n dod â’ch stwff i mewn, ac yna byddan nhw yno wedyn, ondife?  
[Edward] Howell: Ac wedyn, chi’n trio prynu, os ewch chi i drio prynu rhywbeth ac wedyn chi’n mynd i drio edrych am y gorau, ond ydych chi? Wedyn, fel arfer pan fyddwch chi’n prynu’r gorau, chi’n gorfod talu’r pris i fynd gyda hynny, ondife, ac felly rhaid i chi gael eich arian yn ôl, on’d oes?  
Cyfwelydd Vicki Thompson: Sut mae’r prisiau ar hyn o bryd?  
[Edward] Howell:: Ddim rhy wael ar hyn o bryd, allai fod yn well, ond ie… ni’n ddigon bodlon. Roedden ni’n ddigon hapus gyda beth gawson ni, werthon ni rywfaint ddydd Llun, digon hapus. 
Cyfwelydd  Vicki Thompson: Da iawn.
[Edward] Howell: Pan fyddwch chi’n mynd i’r farchnad, mae gyda chi sawl prynwr, pan fyddwch chi ond yn gwerthu i un person, rhaid i chi haglo gyda nhw drwy’r amser, chi’n gwybod, ac mae’n eich danto chi pan fydd yn rhaid i chi haglo gyda rhywun, ond pan ewch chi i’r mart… ie, mae’r bobl yno i weld eich stoc, maen nhw’n hoffi gwylio, ac os ydyn nhw’n eu ffansïo, yna maen nhw’n mynd amdani, chi’n gwybod?  
Caroline:Bach o gystadleuaeth…  
[Edward] Howell: Ie… A dyna’r broblem, does dim digon o brynu rownd y cylch, ar gyfer maint arbennig o greadur, oes, ond nid i’r gwartheg iau.
Caroline: Ddim ar hyn o bryd. 
[Edward] Howell: Ddim ar hyn o bryd, na, ond ni’n dod ymlaen, Felly, ie, gobeithio gawn ni weld beth sy’n digwydd.
Caroline: Gyda’r traed a’r genau, roedd yn rhaid gwerthu oddi ar y buarth, chi’n gweld. Felly dim ond pobl wedi’u clustnodi oedd yn gallu dod i mewn. Felly bydden nhw’n… dweud y pris… ac roedd rhaid i chi ei dderbyn, felly roddon ni gynnig ar hynny. Wel, roedd yn well na dim ar y pryd. 
[Edward] Howell: Gwell na’u cadw nhw.  
Caroline:…ond, chi’n gwybod, chi’n cael gwerthu rhai’n breifat, fel mae’n digwydd i’r bachan mae e’n gweithio gyda fe, ond mae e’n gwybod na fydd Howell ddim yn mynd amdani oni bai ei fod e’n cael pris penodol. Ond um…. 
[Edward] Howell: Ond drwy fod yn y mart bob wythnos, chi’n dod i wybod y prisiau…  
Caroline: Ydy, mae’n handi felna wedyn 
Cyfwelydd  Vicki Thompson: Ac i gloi… Sut ydych chi’n meddwl eich bod chi’n cael eich gwerthfawrogi fel ffermwyr, dyna gwestiwn i bob un ohonoch chi?  
[Edward] Howell: Ydyn ni’n teimlo fel pe baen ni’n cael ein gwerthfawrogi? Dyna gwestiwn!  
Caroline: Mae pobl yn meddwl… y broblem dwi’n ei gweld yn aml wy bod pobl yn gweld y penawdau hyn, ‘£32 miliwn i ffermwyr eleni am… rywbeth’ ac maen nhw’n meddwl “Dduw mawr, maen nhw’n gyfoethog”. Chi’n gwybod, dydyn nhw ddim yn sylweddoli fod y £32 miliwn yn mynd i X nifer o bobl, ond dydyn nhw ddim chwaith yn deall faint o arian mae’n rhaid i chi ei… wario, oherwydd eleni, dwedwch, dydyn ni ddim wedi prynu unrhyw wrtaith. 
[Edward] Howell: Ie, achos mae’r pris wedi mynd drwy’r to. ,
Caroline: Allen ni ddim mo’i fforddio.  
[Edward] Howell: Mae’n debyg bod porthiant wedi codi hefyd. Wel, mae popeth yn mynd lan, trydan, wel, popeth.  
Caroline: Felly dwi ddim yn meddwl fod pobl… maen nhw’n dod yn fwy, dwi’n meddwl… gwybod am ffynonellu’n lleol, dwi’n meddwl fod hynny’n dod yn ôl.  
[Edward] Howell: Mae ofn ar bobl i deithio mwy, chi’n gwybod, yn enwedig oherwydd pris tanwydd a phethau.., chi’n gwybod mae’r bachan dwi’n gweithio iddo fe’n mynd i Gaerfyrddin, mae e’n mynd â lori lawr fan’na, a bydd e’n dod nôl yn wag weithiau, ac mae’r cyfan yn ychwanegu at y costau.  
Caroline: Ie, wel… dwi ddim yn meddwl fod pobl yn sylweddoli… tase ddim pobl fel, chi’n gwybod, ffermwyr rownd ffordd hyn, o ble fydden nhw’n cael eu bwyd? Chi’n gwybod, ceisio cael popeth o dramor, maen nhw i gyd yn sôn am yr allyriadau CO2 yma a phopeth… a chi… ond beth mae’n rhaid iddyn nhw gofio yw bod ffordd o ffermio hefyd, ac ardaloedd gwahanol, hinsawdd, pridd, popeth, rhaid i chi ffermio’n wahanol. Felly mae’r wybodaeth leol yna… rhaid i chi… 
[Edward] Howell: Chewch chi ddim ffermydd llai o faint dramor, maen nhw i gyd yn ranshys. Yn Ne America, medden nhw, maen nhw’n dal i ddefnyddio hormonau tyfu gafodd ei gwahardd fan hyn tua diwedd yr 80au neu’r 90au, chi’n gwybod. 
Caroline:: Ie… mae gyda ni lawer o gyfyngiadau llym… dyw pobl ddim yn sylweddoli, ac eto maen nhw’n ddigon hapus wedyn i fynd i’r archfarchnad, ei brynu am ei fod yn rhatach, heb sylweddoli sut gafodd y peth ei fagu. 
[Edward] Howell: Ac nid yn unig hynny, dydyn nhw ddim yn gwybod faint o amser mae’n gymryd i ddod drosodd, ond mae wedi bod ar y bad yna mor hir. Mae’n ffres fan hy, mae’n hongian am 21 dydd, ac wedyn mae e bant. Ond yn amlwg, rhaid ei fod wedi bod ar y bad am gryn dipyn o amser cyn dod fan hyn. Felly dyw pobl ddim wir yn gwybod beth maen nhw’n bwyta, ydyn nhw?  
Caroline: Rydyn ni’n canfod ein hwyau, ac mae pobl o’r diwedd yn sylweddoli, “Jiw, am wahaniaeth!” Oherwydd fel y gwelwch chi pan ewch chi mas fan hyn, maen nhw’n hollol rydd, dydyn nhw ddim yn organig, ond maen nhw’n cael eu bwyd wrthon ni ac yna rownd â nhw, wel, maen nhw’n hela ymhobman! Ond all pobl ddim cael digon o’n hwyau ni ar hyn o bryd, oherwydd mae cymaint o bobl eisiau nhw nawr, oherwydd gynted ag y maen nhw’n gweld y gwahaniaeth rhwng rhain a rhai’n archfarchnad, a beth dwi’n ei gael… mae’r rhai mae ein cwsmeriaid ni’n eu cael yn fwy ffres na’r rhai sy’n mynd i’r archfarchnad ar eu diwrnod cyntaf, chi’n gwybod. Ni’n cael lot o bobl yn bwyta’r porc hefyd, ondife? Allan nhw ddim credu’r gwahaniaeth… a sai’n sôn am y bobl hŷn. Dwi’n siarad am oedran Aled, pobl 28 oed sydd wedi syfrdanu, gan y blas gwahanol, chi’n gwybod. Ac rydyn ni’n lwcus bod gyda ni…. mae gyda ni grŵp bach neis sy’n barod ac sy’n gwerthfawrogi a dwi’n meddwl fod hynny’n tyfu.  
[Edward] Howell:: Ie, bwyd sy’n dod o’r ardal leol… 
Caroline: Ffynhonnell leol ond ife? Mae pobl yn cael mwy ond maen nhw’n gwerthfawrogi’r blas hefyd, chi’n gwybod, felly does dim ots gyda nhw dalu tamed bach yn fwy wedyn.  
[Edward] Howell: Cyhyd â bod yr anifeiliaid yn cael eu bwydo’n iawn. Os nad yw’r creadur yn cael ei fwydo’n iawn, chewch chi ddim mo’r ansawdd yn y cig.  
Caroline:: Mae gyda ni ffrind… partner Ian, mae hi’n figan, wedi bod am ryw 10 mlynedd. Mae hi’n ystyried nawr, oherwydd mae hi’n glafoerio bob tro fydd hi’n gweld ein hwyau ni, mae’n debyg, achos ei bod hi’n gallu gweld bod yr ieir yn cael y fath ofal, ac maen nhw’n crwydro’n rhydd felly mae hi’n ystyried mynd nôl a dechrau, ac mae hi oherwydd bod Ian…. unrhyw gig ac mae e yno… mae hi’n ei goginio iddo fe ac ati, ond gall hi weld y ffordd maen nhw’n derbyn gofal. Felly, ydy, mae hi’n ystyried meddwl dechrau bwyta wyau eto a phethau, felly eto… mae’n profi’r pwynt, ond yw e?  
Cyfwelydd  Vicki Thompson: Ydy mae e, yn bendant. Iawn, y gair olaf i chi Elenora, sut ydych chi’n teimlo fel ffermwr, er eich bod chi wedi ymddeol, sut ydych chi’n teimlo eich bod chi’n cael eich gwerthfawrogi?  
Caroline: Fel ffermwr? 
Elenora:...wnes i fwynhau ffermio. Ces i fy magu ar fferm fy hun, ac ro’n i wrth fy modd. I 
Caroline: Ond ydych chi’n meddwl fod pobl yn gwerthfawrogi’r gwaith a phopeth ni’n ei wneud?  
Elenora: Chi wastad yn eu gweld nhw’n tynnu’r ffermwyr i lawr, on’d ydych chi? Ond na, allwch chi ddim gwneud hynny. Rhaid i chi ddal ati i weithio. Y cyfan alla i ei ddweud wrthych chi yw bod yn rhaid i chi weithio.  
 

Owner:
Swansea Council / Caroline Williams / Elenora Williams / Caroline Williams
Crëwr:
Swansea Council
Gwybodaeth drwydded
Eitem wedi’i llwytho:
16/12/2025
Date originally created:
2022
Gwelediadau:
17
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment