Skip to main content

Sgwrs rhwng Elenora, [Edward] Howell a Caroline Williams o Fferm Ysgiach Ganol, Felindre, Abertawe â Swyddog y Rhaglen Datblygu Gwledig, Vicki Thompson, am ymweld â marchnad Caerfyrddin ac unigrwydd ffermio.

Disgrifiadau

[Edward] Howell: Llawenydd ffermio. chi’n gweld stoc ifanc, chi’n gweld yr ŵyn yn cael eu geni yn y gwanwyn, mae lloi yn cael eu geni yn y gwanwyn a’r hydref, eu gweld nhw’n tyfu, chi’n gwybod, rhaid i chi gael gwared arnyn nhw ar ryw bwynt, ond mae’n beth sy’n llawn llawenydd… y farchnad wartheg yng Nghaerfyrddin, chi’n gweithio gydag anifeiliaid drwy’r amser. Chi’n gwybod, mae’n wahanol gyda’ch anifeiliaid eich hunan, chi’n gwybod sut maen nhw’n gweithio, sut maen nhw’n ymddwyn. Pan fyddwch chi yng Nghaerfyrddin, mae’n her, ac mae anifeiliaid pobl eraill gyda chu, ac maen nhw’n ymddwyn yn hollol wahanol, chi’n gwybod, ond mae’n llawenydd. Dwi’n mwynhau pob dydd, chi’n gwybod? Bob dydd fydda i’n mynd i mewn ac mae ’na her, oes
Caroline: Chi’n cael lot o dynnu coes, a chi’n cwrdd â phobl.  
[Edward] Howell: O ie … 
Caroline: Achos mae hi’n unig iawn fel arall.  
[Edward] Howell: Mae’n gallu bod yn unig iawn ar y fferm, achos, chi’n gwybod, chi yno, dim ond chi, ac os yw’r radio’n gweithio ar y tractor, dim ond chi a’r radio sydd, neb arall i siarad â nhw, heblaw pan fyddwch chi’n dod i mewn i gael cinio neu beth bynnag. Ond weithiau, fydda i ddim yn dod i mewn i gael cinio, na fydda i? Chi’n gwybod, jest dala mlaen drwy’r dydd, ac ydy, mae’n wych, chi’n gwybod? Hir y parhao.  
Cyfwelydd Vicki Thompson: A beth amdanoch chi? Beth ydych chi’n ei gael sy’n eich grymuso ym myd ffermio? Beth yw’r pethau da am ffarmio? 
Elenora: Does dim byd yr un peth bob dydd, nag oes, chi’n gwybod? Gyda’r tywydd dwi’n cael gweithio. Dyna welais i, ta beth… ie.  
[Edward] Howell:  Ydy, mae’n her, on’d yw hi? 
Elenora: Mae ’na amrywiaeth.  
Caroline: Ydy, mae’n bendant yn her. 
Elenora: Chi’n mynd yno… dyw’r gwaith byth yr un peth bob dydd, mae amrywiaeth o waith gyda chi.  
[Edward] Howell: Mae ffermio’n waith tymhorol hefyd… adeg y gwanwyn… dyna pryd mae’r adeg brysuraf, achos mae’r ŵyn a’r lloi ac ati, ac wedyn yn yr haf mae’r cynhaeaf, yr hydref yw’r adeg dawelaf o’r flwyddyn i gyd, ac wedyn yn y gaeaf, porthi a glanhau yw popeth, a… 
Caroline: Ond mae’n ffordd o fyw , on’d yw e? 
[Edward] Howell: Ydy, mae’n ffordd o fyw, ac os yw’r tywydd, chi’n gwybod, os yw e’n garedig i chi, mae pethau’n llawer haws i chi, ond os yw’r tywydd yn wael, a dyna pryd mae’n rhoi’r felan arnoch chi, chi’n gwybod? 
Caroline: Chi naill ai’n dwlu arno fe neu’n ei gasâu. Allwch chi mo’i wneud e os ydych chi’n ei gasâu.  
[Edward] Howell: Pawb fyddwch chi’n siarad â nhw, ie, does neb yn ddigalon amdano fe, mae pawb yn hapus gyda beth maen nhw’n ei wneud. 
Caroline: Mae’n hyfryd nawr bod Mart Caerfyrddin ar agor eto, on’d yw e?
Dyn: Wedi ailagor, do. 
Caroline: Mae’n dipyn o gymuned sy’n casglu fan’na, ac mae gyda nhw ffreutur hyfryd a phethau, achos mae gyda nhw ocsiwnïars newydd yn gweithio yno nawr, lawr o Loegr, ac roedden nhw wedi syfrdanu pan agoron nhw gymaint o naws deuluol oedd yno… a sut roedd pawb yn nabod pawb, ac mae’n ddigwyddiad cymdeithasol mewn gwirionedd. Bydd lot o’r bobl hŷn yn dod, ondife, jest i gwrdd, a jest i gael cinio yn y ffreutur, a chollon nhw mas ar hynny am gwpwl o flynyddoedd nawr, nid dim ond Covid… 
[Edward] Howell: Dwedwch eich bod chi’n mynd lawr ar ddydd Mercher a byddwn ni’n cael bwyd ffan hyn nawr, felly ni’n iawn, chi’n gwybod? Maen nhw yno ar ddydd Gwener hefyd, rhai ohonyn nhw, ond maen nhw’n dal i fynd, chi’n gwybod?  
Caroline: Ond ffermio, chi ddim yn ei wneud e am yr arian, chi’n ei wneud o gariad, a dydych chi byth yn blino ar weld eich oen cyntaf neu’r llo cyntaf, neu wylio, chi’n gwybod, y borfa’n tyfu a’r silwair yn dod i mewn, ac fel… ddoe es i i chwilio am wyau, achos mae’r ieir yn dodwy mas, o, gwynt ein gwair… mae’n….  
[Edward] Howell: Mae’n mynd â’ch gwynt chi, on’d yw e?  

Owner:
Swansea Council / Caroline Williams / Elenora Williams / Caroline Williams
Crëwr:
Swansea Council
Gwybodaeth drwydded
Eitem wedi’i llwytho:
16/12/2025
Date originally created:
2022
Gwelediadau:
18
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment