Skip to main content

Sgwrs rhwng Elenora, [Edward] Howell a Caroline Williams o Fferm Ysgiach Ganol, Felindre, Abertawe â Swyddog y Rhaglen Datblygu Gwledig, Vicki Thompson, am hanes y fferm a'i hamgylchoedd uniongyrchol.

Disgrifiadau

Caroline: Ie, enw’r fferm yw… 
[Edward] Howell: Enw’r fferm yw Gïach Ganol, a’r enw yw byrfodd am ‘snipe’. ‘Gïach’ yw ‘snipe’. Felly, rhan o’r enw yw enw’r aderyn… 
Caroline: Wel, ni wedi dod o hyd i Feibl y teulu sy’n mynd yn ôl i1750. 
[Edward] Howell: Nôl i 1751, ife? 1750. A, wel, sai’n gwybod, maen nhw… falle ddywedan nhw fwy, sai’n gwybod.  
Caroline: Rhannwyd y fferm yn ffermydd llai, do? Nawr te, Gïach Ganol ei hun, sawl erw? 
[Edward] Howell: 40 erw. 
Caroline: 40 erw yn Gïach? 
Elenora 42 neu rywbeth. 
Caroline: Dyna ni… rydyn ni’n gwybod fod y tŷ yma wedi bod yma ers, wel ers bod Mam-gu Mawr yma. 
Elenora: Roedd gen i lun ohoni hi, edrych y bore ’ma, ar lun henffasiwn, fel portsh yn y blaen a ble… I ble aeth hwnnw, sai’n gwybod. 
Caroline: Iawn. I ddechrau dau lan a dau lawr oedd e. 
[Edward] Howell Gyda phantri yn y cefn. 
Caroline: Sy’n dal yma, gyda’r slabyn concrit, y fainc yw ein henw ni arno fe. Adeiladwyd y tamaid bach yma yn 1936. Ac wedyn wnaethon. ni’r estyniad hwn tua 2020. A ble mae’r fam yng nghyfraith yn byw, yr hen gartws oedd hwnnw, ac rydyn ni wedi’i droi e’n anecs iddi hi. O’r hyn allwn ni ei gasglu, godro sydd wedi bod yma ers… ac yn hunangynhaliol iawn… um, drwy’r amser, ondife?  
Elenora: Roedden nhw’n godro â llaw ar y dechre, ond oedden nhw? 
Caroline: Oedden. 
[Edward] Howell: A chyn hynny, bydden nhw’n tyfu ŷd islaw’r tŷ, nid uwchlaw.  
Caroline: Er bod hwnnw’n rhyw fath o ddiffeithwch ar hyn o bryd.  
[Edward] Howell: Tir wast oedd ar y top. A phob math o lysiau, a’r ŷd a’r stwff… 
Elenora: Popeth islaw. 
[Edward] Howell: Islaw’r tŷ, ie. 
Elenora: Islaw’r tŷ. 
Caroline: Roedd hewl fawr, beth fyddwn ni’n ei alw’n hewl fawr, yn mynd heibio’r tŷ fan hyn a doedd yr hewl ddaethoch chi i lawr arni ddim yno. Felly roedden nhw’n arfer mynd heibio fan hyn, lawr i’r coed a dod mas wrth Tyn y Cwm. Um, yn Felindre, sydd nawr… roedd hi’n ffordd hyd at ryw 10 mlynedd yn ôl…  
[Edward] Howell: Hmm, dal sownd, ie tua 10. 
Caroline: Ond nawr mae wedi cael mynd yn llwybr cerdded.  
[Edward] Howell: Fe ddechreuodd fel llwybr ceffyl, wedyn mae wedi mynd yn llwybr troed. 
Caroline: Aeth dy dad â cherbyd i lawr ffordd yna… 19 beth aeth Gwyn â’r car lawr y tro diwethaf? 
[Edward] Howell: ’61, ife? 
Caroline: 1961? 
Elenora: 60 rhywbeth, ondife? 
[Edward] Howell: Dyna’r tro diwethaf i’r cerbyd fynd i lawr y lôn, lawr yr hewl dylwn i ddweud. Felly…  
Caroline: Ni wedi rhyw… 
Elenora: Roedden ni’n briod ta beth.  
Caroline: Felly fuon ni’n godro tan 1990… buches odro fach, [2023,] neu rywbeth felna, ond aeth e’n annichonadwy wedyn gyda’r ddeddfwriaeth newydd, parlwr newydd, allen ni ddim mo’i fforddio.  
[Edward] Howell: Doedd e ddim yn talu ffordd, chi’n gwybod?  
Caroline: A phryd hynny, roedd bron bob fferm fan hyn yn godro, nawr dim ond un fferm, um, Cil Faen yn y pentref. Mae wedi mynd o hynny i… ro’n ni’n arfer gwneud rhywfaint o datws, swêds, digon hunangynhaliol. Wedyn aethon ni mas o hynny, a gawson ni lot o ddefaid achos gawson ni fferm arall draw ar yr ochr arall, Gelli Gwm.  
[Edward] Howell: Wedyn aethon ni at y gwartheg sugno. Bydd y fuwch yn dod â’i llo ei hunan, ac yn ei magu, a byddwn ni’n gwerthu’r lloi yn unig pan fyddan nhw’n rhyw 10, 12 mis oed. 
Caroline: Bydden ni’n arfer gwneud tyrcwn amser Nadolig hefyd.  
Elenora: Ie, ie, roedd tyrcwn adeg Nadolig. 
Caroline: Tan i’r deddfau ddod i mewn o ran gorfod bod yn ofalus beth roeddech chi’n ei wneud, ac wedyn roeson ni’r gorau i hynny, on’d do?  
Elenora: Do. 
Caroline: Ond mae ein mab, sy’n byw draw ar yr ochr draw, draw yn Gelli Gwm, yn mynd yn ôl at…  
[Edward] Howell: Tyfu’i gnwd ei hun…  
Caroline: Tyfu cnwd glas, mewn polytunnel bach iawn eleni. All e ddim tyfu digon i werthu, mae ganddo fe ei wyau ei hun. Mae ganddo fe rownd fach gyda’r wyau a’r llysiau ar y penwythnos. A fe a’i bartner, maen nhw’n edrych nawr ar wneud ychydig mwy o dyfu llysiau yn lle… ac maen nhw’n magu moch, ac wedyn yn eu lladd nhw. Wel, allwch chi ddim cael digon ohonyn nhw i allu’u gwerthu’n breifat, naill ai fel cig neu selsig, byrgers, yr un peth gydag oen. Yn anffodus, rhaid i’r plant i gyd fynd mas i weithio. Mae mab gyda ni’n byw fan hyn sy’n helpu ar yr ochr yna. Mae mab gyda ni ar yr ochr draw, mae e’n gogydd wedi cymhwyso, nawr mae e’n gweithredu peiriannau mawr, achos all e ddim dioddef bod dan do drwy’r amser, ac wedyn mae e’n gwneud hyn gyda’r nos ac ar y penwythnos gartref wedyn. Allwch chi ddim… ond nôl yn 1980, roedd dau, dri ohonoch chi….  
[Edward] Howell: Tri ohonon ni. 
Caroline: …yn gweithio ar y fferm, ond nawr mae Hywel yn mynd mas i weithio, hyd yn oed, does neb yn gweithio’n llawn amser yma mwyach, achos allwch chi ddim mo’i fforddio… 
[Edward] Howell: Ie, felly, dyna chi… 
Elenora: Yr holl ffermydd rownd ffordd hy, roedden nhw tua 40 erw, 45 erw neu rywbeth felna… y rhan fwyaf o’r ffermydd rownd fan hyn.  
Caroline: Wel, cart a cheffyl oedd hi wedyn, ondife? Ac wedyn y tractors bach, wrth gwrs, ffermydd mawr… Wel, pan ddaethon ni at ein gilydd roedd y fferm gyfan yn rhyw 220 erw, ac roedd hynny’n cael ei ystyried yn fferm fawr. Nawr maen nhw’n ei galw hi’n fferm hobi, fferm fach. Chi’n gwybod, chi mond yn sôn am ryw 35, 40 mlynedd, mae’r gwahaniaeth wedi bod yn enfawr, a phobl yn gorfod arallgyfeirio yn lle. Wedyn, chi’n gwybod, dyw e ddim yn fforddiadwy i gadw… 
[Edward] Howell: Ac eto’n gall y llywodraeth roi stop arnoch chi, chi’n gwybod…  
Caroline: O ie, pobl sy’n gweithio… 
[Edward] Howell: Allan nhw ddim cael hawl i wneud rhai pethau, chi’n gwybod, draenio neu rywbeth.  
Caroline: Wel, dyna pam ymddeoloch chi a Gwyn, ondife? 
Elenora: Ie. 
Caroline: O’n nhw’n ffael dygymod â’r gwaith papur, oherwydd, chi’n gwybod, wedi’u geni a’u magu i fod mas, gweithio’r tir, ondife?  
Elenora: O, ie. 
Caroline: Ond mae cymaint o waith papur nawr. Um, chi’n gwybod allwch chi dreulio…  
Elenora: Ac roedden ni’n prynu mwy o dir os gallen ni ei gael e.  
Caroline: Ie. 
Hen Wraig: I ddechrau…. brynon ni lawer o dir bryd hynny.  
Caroline: Do, achos dim ond rhyw 40 erw oedd gyda chi pan briodoch chi, ondife? Nawr mae gyda chi ryw 220 i gyd. 
[Edward] Howell: Ond yn amlwg, roedd tir yn rhatach i’w brynu bryd hynny nag yw e nawr.  
Elenora: O Duw, oedd. 
[Edward] Howell: Mae’n frawychus nawr, hefyd.  
Caroline: Allech chi byth nawr. 
Elenora: Allech chi mo’i gyffwrdd e nawr.  
Caroline: Bron i fi anghofio, pwy oedd y teiliwr? Mae… bach o adfail yn yr ardd, adfail sied mas, oherwydd roedd un ohonyn nhw’n arfer gwneud gwasgodi, on’d oedd?  
[Edward] Howell: Fy hen dad-cu, ife?  
Elenora: Tad-cu… Brawd tad-cu Gwyn, ife? Nid ei un e yw’r tad-cu. 
[Edward] Howell: O. 
Elenora: Llywelyn oedd ei dad-cu e. 
[Edward] Howell: O, iawn. 
Cyfwelydd Vicki Thompson: Felly, rhagorol… o ran llinach y teulu, gawsoch chi eich geni ar y fferm?  
Elenora: Naddo. 
Cyfwelydd Vicki Thompson: Briodoch chi i mewn i’r teulu?  
Elenora: I mewn i’r teulu. 
[Edward] Howell: Mae’r ddwy yma’n bobl ddŵad. 
Caroline: Ni yw’r bobl ddŵad.  
Cyfwelydd Vicki Thompson: Dwedwch rywbeth wrtha i.  
Caroline: Na, dwi ond yn dod o ochr arall y mynydd. Yn llythrennol.  

Owner:
Swansea Council / Caroline Williams / Elenora Williams / Caroline Williams
Crëwr:
Swansea Council
Gwybodaeth drwydded
Eitem wedi’i llwytho:
16/12/2025
Date originally created:
2022
Gwelediadau:
23
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment