Skip to main content

Cyfweliad gan Sian Green, swyddog y Rhaglen Datblygu Gwledig, â Chris Harry Thomas a'i wraig, Louisa, o Paviland Farm, Rhosili, Gŵyr am yr heriau mwyaf i ffermio a'u cymhelliant i barhau – 5

Disgrifiadau

Cyfwelydd Sian Green:  Felly fe sonioch chi ynghynt am rai o’r heriau. Beth ddywedech chi yw’r heriau mwyaf rydych chi’n eu hwynebu, ac efallai’r heriau mwyaf rydych chi wedi sylwi arnynt mewn cyd-destun ehangach ym myd ffermio ar hyn o bryd? 
CHT: Wrth fynd yn ôl at y sylw am dderbyn y pris, un o’r heriau sydd wedi bod yn broblem enfawr i ni yw ein bod ni’n methu gofyn pris, rhaid i ni dderbyn pa bynnag bris sy’n cael ei gynnig yn seiliedig ar bris y farchnad, ac mae marchnad y DU yn eithaf bach yn hyn o beth. Felly, y pris… wel, ystyriwch Wcráin, oherwydd y rhyfel yn Wcráin mae pris ein gwenith wedi codi. Ond dyw hi ddim mor syml â hynny oherwydd mae popeth arall wedi codi yr un pryd yn y negyddol, ystyriwch y tanwydd er enghraifft, roedden ni’n talu rhyw 20 i 23c y litr am danwydd a nawr rydyn ni’n talu  £1.22 y litr am danwydd. Felly mae popeth wedi codi, ac roedd eleni’n dipyn o fendith am ein bod ni wedi cael haf bendigedig, felly doedd dim rhaid gwario ffortiwn ar sychu’r grawn. Fel arfer byddai’n rhaid i ni sychu’r grawn yna, a byddai hynny wedi bod yn rhyw ugain mil i £30,000 o wariant ychwanegol ar brisiau heddiw. Felly mae popeth wedi codi.
Y peth arall, i fi, yw llafur, dod o hyd i bobl, a’r bobl gywir, sy’n gallu dod ar y daith hon gyda ni, a llety, fel dywedodd Louisa. Ond dwi’n meddwl, oherwydd yr holl gostau ac ati nawr, dyna pam mae’n rhaid arallgyfeirio a chreu cynnyrch all sefyll ar eu traed eu hunain a mynd yn nes at y farchnad derfynol yna. 
Cyfwelydd Sian Green:  Ac ar y llaw arall, beth sy’n rhoi’r bodlonrwydd mwyaf i chi? Beth sy’n tanio’r llawenydd mwyaf mewn ffermio?  
LHT: Dwi’n cael llawer o lawenydd o weld pobl yn ei werthfawrogi. Ein cynnyrch, boed hynny’n stwff i anifeiliaid gysgu arno fe, stôr, neu’r llysiau neu’r pwmpenni, a thros y blynyddoedd diwethaf hyn rydyn ni wedi datblygu ystod go eang o farchnadoedd lleol, o fwytai i bwmpenni’n mynd i mewn i ysgolion lleol, i’r gwellt gwely ceffylau. Ac mae’r adolygiadau ar gyfer hwnnw wedi bod yn wych. Felly, ydy, mae cael adborth da yn bleser pur.
CHT: ie, dwi’n ffermwr angerddol iawn, iawn, a dwi wastad wedi caru ffermio a’r mathau gwahanol o ffermio mewn rhannau gwahanol o’r byd. Am wn i ei bod hi’n deg dweud gyda’r costau, i roi enghraifft, fe wnaeth gosod llawr concrid a ddylai fod wedi costio ugain mil i ni gostio £55,000 oherwydd Brecsit a’r holl fusnes Covid oedd wedi digwydd, costau trydan, yr holl stwff arall – mae wedi fy nadrithio rhyw ychydig. Dwi’n angerddol ynghylch yr hyn rydyn ni’n ceisio’i wneud, ond dwi’n teimlo fel pe bai un llaw wedi’i chlymu y tu ôl i ’nghefn. Ac mae wedi gadael ei ôl, os ydw i’n hollol onest nawr, mae wedi gadael ei ôl arna i o ran rhai pethau do’n i byth yn gofidio amdanyn nhw o’r blaen, a nawr dwi yn gofidio, ac yn meddwl fod ffermio fel y mae nawr yng Ngŵyr, oni bai ein bod ni’n newid… fyddwn ni’n ‘afterthought’. Ac wyddoch chi, ro’n i’n mynd i Frasil yn aml, a nawr maen nhw’n chwerthin arnon ni, yn siarad amdanon ni’n cael gardd fan hyn. Wel yn amlwg, yn y DU mae’n fferm o faint digon deche, ond dwi’n meddwl taw logisteg yw’r peth a’r ddealltwriaeth ynghylch ble mae’r marchnadoedd hyn, ac mae angen i ni wahaniaethu a newid hynny. Fel arall, dwi’n meddwl y bydd llawer o Gymru’n troi’n ffermio o’r llaw i’r genau yn y pen draw, gyda llond llaw o ddefaid yn cael eu troi mas i bori, a dwi’n meddwl bod y strwythurau grant mae Llywodraeth Cymru’n eu rhoi yn eu lle ar hyn o bryd yn mynd i greu tir hesb, nawr ydy’r tir hesb yna’n werth unrhyw beth? Yn amgylcheddol fe allai fod yn dda, ond yw hynny’n mynd i gadw Cymru’n wlad sy’n ffermio. Mae gen i fy amheuon.   

Owner:
Swansea Council / Chris Harry Thomas/ Louisa Thomas
Crëwr:
Swansea Council
Gwybodaeth drwydded
Eitem wedi’i llwytho:
16/12/2025
Date originally created:
2022
Gwelediadau:
21
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment