Skip to main content

Cyfweliad gan Sian Green, swyddog y Rhaglen Datblygu Gwledig, â Chris Harry Thomas a'i wraig, Louisa, o Paviland Farm, Rhosili, Gŵyr am y newidiadau i ffermio ym mhenrhyn Gŵyr, y costau cynyddol a'r dylanwadau byd-eang – 3

Disgrifiadau

Cyfwelydd Sian Green: Felly, yn amlwg rydych chi wedi newid defnydd eich fferm dros y blynyddoedd, ond ydych chi wedi sylw fod ffermio’n gyffredinol, a’r gymuned o’i gwmpas, wedi newid llawer? Neu a yw pethau yr un peth o hyd?
CHT: Mae ffermio yng Ngŵyr wedi newid yn syfrdanol. Arferai fod rhyw 34/35 fferm odro yng Ngŵr, nawr dim ond dwy sydd. Felly mae’r newid cyfan a’r symudiad at lif incwm gwahanol fel twristiaeth, ac wrth gwrs, ie, twristiaeth a’r ymwelwyr a newid adeiladau’n llety, mae wedi bod yn newid enfawr. Cafwyd mudo mawr o ran pobl hefyd, felly mae llawer o bobl oedd yn byw’n lleol wedi symud i ffwrdd oherwydd yn amlwg, mae ffermio i ryw raddau wedi dirywio’n fawr, ddywedwn i, yng Ngŵyr ers amser maith.  
LHT: Ar y pwnc yna, dwi’n meddwl taw’r peth arall mae’n rhaid i chi gofio yw pan oeddech chi’n fachgen, gallu mynd i Reynoldston ac roedd cigydd lleol yno, a gallech chi brynu bwyd oedd wedi’i gynhyrchu’n lleol, a byddech chi’n cael cig o’r fferm, y byddai eich tad yn ei fwtsiera gartref. A’r math yna o beth. Ond erbyn heddiw mae pawb, yn amlwg, yn mynd i’r archfarchnad. Felly rhan o beth rydyn ni’n ceisio’i wneud nawr yw troi’r cloc yn ôl. Ddeng mlynedd yn ôl grawn oedd bron popeth ffordd hyn, ond nawr rydyn ni wedi ailgyflwyno gwartheg a defaid i’r fferm ac wedi ailgyflwyno llysiau hefyd, ac rydyn ni’n ceisio dod o hyd i farchnadoedd lleol ar gyfer y llysiau, sy’n heriol ond… ac mae heriau cysylltiedig eraill hefyd, fel ceisio cael llety i staff. Wrth gwrs mae pris llety i lawr fan hyn yn wallgo, felly mae ceisio cael unrhyw le i bobl fyw a gweithio lawr fan hyn yn heriol iawn. A’r peth arall yw ceisio newid arferion pobl er mwyn eu perswadio nhw i brynu’n lleol go iawn yn hytrach na phrynu mewn archfarchnad, sef yn amlwg beth mae’r rhan helaethaf o bobl yn ei wneud, ac maen nhw’n cael hynny’n hawdd ac yn rhatach. A gyda’r argyfwng economaidd sydd ar y gweill hefyd, dwi’n meddwl y bydd hynny hyd yn oed yn fwy heriol.
CHT: Bydd. Ac o ran cynaliadwyedd a newid y fferm, fe adeiladon ni dŷ pacio newydd dros y blynyddoedd diwethaf hyn er mwyn i ni allu troi rhywfaint o gynnyrch ein fferm yn gynnyrch i’w fanwerthu, ac i gael gwell ‘margin’ ynddyn nhw. Felly i fynd yn ôl at beth ddywedodd Louise, rydyn ni’n cael trafferth wirioneddol yn dod o hyd i ddigon o bobl, ac mae cael llety iddyn nhw’n broblem hefyd. Felly dwi’n meddwl fod y cyfan yn un gybolfa. Ond wrth gwrs, rhaid i ni newid, ni’n teimlo, o fewn y system ffermio, oherwydd mae ffermio… ac mae ffermio’n newid ac mae yna newidiadau enfawr ar fin digwydd.
LHT: Ac eto, o fynd yn ôl at yr agwedd ffermio grawn, 5-10 mlynedd yn ôl roedd yr holl rawn yn cael mynd mewn lorïau mawr ac yn aml yn mynd dramor i Affrica mewn lorïau grawn enfawr. Ble erbyn hyn, rydyn ni’n gwerthu ein holl rawn yn eithaf da yn y DU ac i farchnadoedd lleol, sy’n wych. Mae rhywfaint ohono’n mynd i fwydo anifeiliaid mewn busnesau lleol, ac wedyn mae’r gwellt a’r gwair rydyn ni’n cynhyrchu ar y fferm, mae llawer ohono’n mynd i’n tŷ pacio i greu cynnyrch o werth uwch ar gyfer ceffylau, felly deunydd gwely a gwellt i geffylau. Ac mae’r farchnad geffylau ar draws De Cymru wrth eu bodd â hynny, oherwydd mae llawer o bobl sy’n prynu wedi bod yn prynu cynnyrch yn draddodiadol a fewnforiwyd o dramor ar gyfer eu ceffylau, a nawr maen nhw’n gallu cefnogi fferm leol, a phrynu cynnyrch a dyfwyd yn naturiol, sy’n cael ei roi mewn bagiau gennym ni, ac rydyn ni’n ychwanegu tamaid bach yn ychwanegol iddo a’i gyflenwi, ac wir, erbyn hyn rydyn ni’n mynd o Hwlffordd reit draw i’r ffin gyda’r ystod yna o gynnyrch, a lan i ganolbarth Cymru. 
CHT: Dwi’n meddwl eich bod chi’n gwybod fod ffermio wedi newid hefyd o ran yr holl strwythur costau, mae nawr yn ddrud iawn, iawn. Mae wedi mynd yn dechnegol iawn, sy’n golygu nad oes angen cymaint o bobl ar y fferm yn draddodiadol. Byddai Dad, yn yr hen ddyddiau, wedi cael rhyw 30 o ddynion ar y fferm, a nawr dim ond dau ohonom ni sydd. Ac anghofiwch y tŷ pacio, dim ond y pethau ffermio yw hynny. Ble byddai fy nhad yn treulio wythnos i chwistrellu 500 erw, gallwn ni chwistrellu’r fferm gyfan, sy’n rhyw 800 erw, mewn diwrnod nawr tasen ni eisiau. Mae patrymau’r tywydd yn newid, mae costau tanwydd yn newid, mae popeth wedi mynd drwy’r to, sydd, wrth gwrs, yn creu’i broblemau’i hun ar hyn o bryd oherwydd Wcráin, rydyn ni’n cael prisiau go uchel am ein grawn, ond mewn gwirionedd, heb fod yn farus, dyna ble dylai’r pris fod beth bynnag, ble, hyd yn hyn, rydyn ni wedi bod yn derbyn y pris. Fel dywedodd Louisa, roedden ni’n anfon cynnyrch i Affrica, felly roedd ein holl rawn yn mynd mewn lori i Avonmouth ac i mewn i longau ac i ffwrdd, ac roedden ni’n gorfod derbyn y pris oedd yn cael ei gynnig. Felly dyma ran o’r newid sef ein bod ni’n ceisio cadw rheolaeth dros ein ffawd ein hunain, ac ychwanegu gwerth er mwyn cynnal y fferm gyda’r holl gnydau i’w tyfu.  
LHT: Felly o ran y llysiau, fe ddechreuon ni wneud pwmpenni heb unrhyw wrtaith artiffisial na chemegau ddwy flynedd yn ôl ac roedd hynny’n llwyddiannus iawn. Ac felly dyna roddodd y dechrau i’r gwaith llysiau newydd. Felly er bod Chris, nôl yn y 1970au, yn arfer tyfu llawer iawn o lysiau yma pan oedd e’n cyflenwi’r archfarchnadoedd, rydyn ni’n gwybod ein bod ni’n gallu tyfu llysiau’n wych fan hyn am fod gyda ni dir o ansawdd da. Cafodd hwnna i gyd ei ddirwyn i ben oherwydd bod yr archfarchnadoedd wedi gwthio cymaint ar y prisiau nes peri iddo beidio â bod yn ddichonadwy. Felly nawr, genedlaethau’n ddiweddarach, ni wedi dod yn ôl at lysiau, a’r syniad y tro hwn yw ceisio gwneud y cyfan heb gemegau na gwrtaith artiffisial a datblygu’r farchnad leol yna. Felly mewn llawer o ffyrdd rydyn ni’n rhyw droi’r cloc yn ôl.

Owner:
Swansea Council / Chris Harry Thomas/ Louisa Thomas
Crëwr:
Swansea Council
Gwybodaeth drwydded
Eitem wedi’i llwytho:
16/12/2025
Gwelediadau:
30
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment