Cyfweliad gan Sian Green, swyddog y Rhaglen Datblygu Gwledig, â Chris Harry Thomas o Paviland Farm, Rhosili, Gŵyr am brynu'r fferm a'r cefndir – 1
Disgrifiadau
Cyfwelydd Sian Green: Felly, am wn i, i ddechrau, tybed fyddai ots gyda chi gyflwyno eich hunain, y fferm, a dweud ychydig wrthym am ba mor hir rydych chi wedi bod yn gwneud yr hyn rydych chi’n ei wneud, beth ydych chi’n ei wneud? Ydy’r fferm wedi bod yn eich teulu am amser maith?
CHT: Prynodd fy rhieni Paviland Manor yn 1963 ac rydyn ni wedi bod yn ei ffermio byth wedyn, gydag amrywiaeth o gnydau gwahanol a faint o gnwd. I ddechrau, daeth fy nhad â’i fuches laeth yma o Orllewin Cymru, ac roedd ganddo fferm ar Benrhyn Gŵyr yn barod, felly roedd yn symudiad digon synhwyrol i ddod fan hyn, a gwyddai e am Paviland, a phan ddaeth hi ar y farchnad, (dwi ddim yn meddwl fod fy mam wedi maddau iddo tan heddiw hyd yn oed) ond prynodd y lle hwn a gwerthu ble roedden nhw yn Sanclêr. Felly roedd y fferm wedi dechrau fel fferm gymysg draddodiadol ac mae wedi datblygu o’r fan honno.
Cyfwelydd Sian Green: Ac felly beth ydych chi’n ei wneud heddiw? Beth yw eich bara menyn nawr?
CHT: Wel, hyd at COVID roedd fy mara menyn yn dod o’r tu fas i’r fferm a dweud y gwir. Ro’n i’n gwneud gwaith ymgynghorol i Imsarat ac Airbus ar ffermio manwl ledled y byd, a galluogodd hynny i ni newid y fferm. Felly mae’r fferm yn bur wahanol nawr yn yr ystyr ein bod ni’n tyfu amrywiaeth o gnydau, ac mae llawer o’r gwaith yn ymwneud ag edrych ar sut allwn ni newid y fferm i’w gwneud yn gynaliadwy, yn amgylcheddol ac economaidd ar gyfer y dyfodol.
Rhagorol.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment