Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Mae'r ffotograff prin hwn, sydd wedi'i ddifrodi'n wael, yn dangos Mrs Pankhurst, y swffragét flaenllaw, yn annerch y dorf yn Sgwâr y Castell, Hwlffordd. Fe'i tynnwyd yn ôl pob tebyg ym 1908, pan fu Mrs Pankhurst a swffragetiaid blaenllaw eraill yn canfasio yn ystod yr isetholiad y flwyddyn honno. Daeth y swffragetiaid i Hwlffordd i ymgyrchu yn erbyn yr ymgeisydd Rhyddfrydol, Mr Roch, gan fod y Prif Weinidog Rhyddfrydol, Mr Asquith, yn gwrthwynebu rhoi'r bleidlais i ferched. Methiant fu eu hymdrechion (enillodd yr ymgeisydd Rhyddfrydol yn hawdd) ond, er gwaethaf yr elyniaeth tuag atynt yn y wasg leol, cafodd y swffragetiaid eu trin â chwrteisi yn Sir Benfro ar y cyfan. Roedd hyn i'r gwrthwyneb yn llwyr i'r derbyniad a gawsant mewn lleoliadau eraill. Yn aml byddai'r swffragetiaid yn cael eu trin yn wael iawn; taflwyd wyau clwc neu fagiau o flawd atynt, rhwygwyd eu dillad neu fe'u trawyd gan ffyn neu ymbaréls.

Daw enw'r Swffragetiaid o'r gair Saesneg 'suffrage' sy'n golygu yr hawl i bleidleisio. Bu'r swffragetiaid yn ymgyrchu'n ddiflino er mwyn ennill yr hawl i ferched bleidleisio mewn etholiadau. Cawsant lwyddiant rhannol ym 1918 pan roddwyd y bleidlais i ferched dros 30 oed, oedd yn berchen ar eiddo. Serch hynny, dim ond ym 1928 y cafodd merched eu trin yn gyfartal â dynion o safbwynt hawliau pleidleisio.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw