‘Merched y Fôt’ ym 1912
Eitemau yn y stori hon:
Y Merched yn protestio
Ddydd Mawrth 8 Mawrth mae’r byd yn dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Merched, a threfnir miloedd o weithgareddau a digwyddiadau i ysbrydoli a chofnodi llwyddiannau merched. Erbyn heddiw, mae’r diwrnod hwn yn rhan greiddiol o galendr nifer fawr o wledydd, ond gwta ganrif yn ôl roedd merched Cymru’i hun yn protestio dros gael y bleidlais – a hynny yn yr Eisteddfod Genedlaethol.
Yn 1912, roedd protestiadau’r ‘Suffragettes’ ar eu hanterth, a merched yn gweithredu ym mhob rhan o’r wlad ac mewn digwyddiadau amrywiol er mwyn tynnu sylw a chodi ymwybyddiaeth am eu hachos. Yr oedd yr Eisteddfod Genedlaethol, gyda’i phafiliwn mawreddog, yn leoliad ardderchog i brotest o’r fath, yn enwedig ar brynhawn Iau, gyda’r cystadlaethau corawl, y Cadeirio – ac efallai – yn goron ar y cyfan oll – anerchiad gan David Lloyd George ei hun.
Yn ôl Baner ac Amserau Cymru, 14 Medi 1912:
'Dyma yn ddiddadl ddiwrnod mawr yr wyl – diwrnod a hir gofir gan Eisteddfodwyr o bob gradd. Gelwid ef yn gyffredinol yn ‘ddiwrnod Lloyd George’ a dyna ydoedd mewn mwy nag un ystyr… O bob cwr i’r wlad troai y bobl eu hwynebau tua Gwrecsam. Erbyn dau o’r gloch yr oedd y babell yn llawn i’w chyrau eithaf – rhai yn eistedd, eraill yn sefyll ac yn ymdaraw goreu gallent. Yr oedd o leiaf Dair Mil ar ddeg o fewn muriau y babell, ac oddi allan yr oedd miloedd eraill. Nid ydym yn gorliwio yn hyn o beth.’
Roedd popeth yn argoeli’n berffaith am brynhawn arbennig yn y Pafiliwn, gyda’r dyrfa fawr wedi cyffroi’n llwyr wrth ddisgwyl i glywed anerchiad y Canghellor ei hun. Chwaraeodd y seindorf ‘See the Conquering Hero Comes’ ac yna cododd David Lloyd George ar ei draed ‘i anerch ei gydwladwyr mewn Cymraeg glan a phur’.
David Lloyd George
Mewn erthygl yr wythnos ganlynol (12 Medi 1912), disgrifiodd papur newydd Y Brython Lloyd George fel ‘…arwr cenedlaethol Cymru ar hyn o bryd. Tynfaen cenedl ydyw a chydia calonnau’r bobl ynddo fel darnau dur wrth magnet nerthol.’
Ond gwahanol iawn oedd agwedd rhai o’r merched yn y gynulleidfa brynhawn Iau. Roedd trefnwyr yr Eisteddfod yn ymwybodol o fygythiad y ‘Suffragettes’, ac yn ôl Baner ac Amserau Cymru, ‘Gosodwyd heddgeidwaid talgryf yma ac acw yn y pafiliwn i ofalu am y cythryblwyr, ac yr oedd eraill, hefyd, wedi eu nodi i wasanaethu os byddai angen.’
Mae’r papur yn disgrifio’r hyn a ddigwyddodd wedyn, gan ddweud:
T‘Cyn i Mr Lloyd George orphen brawddeg neu ddwy, torwyd ar heddwch y babell gan lais main treiddiawl, yn dyrchafu o rywle yn y blaen seddau ‘Merch y bleidlais’ yn ddios, ddiammheu. Mewn eiliad aeth yn gyffro cyffredinol, a’r eiliad nesaf, yr oedd merch ieuangc drwsiadus ym mreichiau dau heddwas ac yn prysuro’i cherddediad tua drws y babell. Ni ddywedodd y ferch ond ychydig o eiriau, ond yr oedd hyny yn ddigon i ennyn dygasedd y dorf. ‘Chuck her out,’ ebai rhywun ger llaw, ac felly bu yn dra diseremoni.’
Difyr yw darllen adroddiad Y Brython am y brotest:
T‘Y funud y dechreuai’r Canghellor frawddeg, gwaeddai un o’r gwylliaid peisiog eu gwaedd ystrydebol, yna rhuthrai tri neu bedwar o blismyn i’w nhol, ac ar y ffordd tua’r drws, estynnai pawb ei bwt a’i beltan iddi, a hynny mor heger a mileinig, nes y bydd aml i ffolog yn glais a chreithiau ar hyd ei hoes. Gwelais un widdon, wrth fynd heibio canol y llwyfan ym mreichiau’r plismyn, yn troi at Mr Lloyd George ac yn scyrnygu ei glafoer gwyn i’w wyneb, gan dynnu’r cuwch mwyaf cythreulig a welais yn f’oes.’
Ac fe waethygodd pethau wrth i ragor o ferched godi i leisio’u barn, gyda’r adroddiad ym Maner ac Amserau Cymru’n llai na chefnogol:
T‘Symmudwyd gwraig ar ôl gwraig; ysgubid hwy heibio’r llwyfan gyda’r brys mwyaf, ac oni bae fod gwarchodaeth yr heddgeidwaid drostynt, buasent yn ddiddadl wedi eu cystwyo yn y babell ei hung an mor ddigodus oedd y cynnulleidfa. Tarawyd eu hetiau ymaith a thynwyd eu gwallt cyn cyrhaedd o honynt y dorf tu allan… Da oedd ganddynt gael nodded mewn ‘ante-room’, lle y buont yn garcharorion am oriau; gan y disgwylid hwy allan gan dorf a rifai bedair mil. Dywedir fod un o’r merchetos o sir Forganwg ac un arall o’r Amwythig. Parodd y cyffreo am o ddeutu hanner awr.’
Atgofion y brotest yn Eisteddfod 1933
Un mlynedd ar hugain yn ddiweddarach, dychwelodd yr Eisteddfod i dref Wrecsam, ac erbyn hynny roedd gan ferched yr hawl i bledleisio. Mae’n amlwg i ddigwyddiadau cythryblus 1912 gael cryn effaith ar Gymru ac ar y wasg yn arbennig, gan fod papurau newydd 1933 yn llawn o hanes y Suffragettes a’r brotest fawr yn 1912.
Mae Y Cymro, 5 Awst 1933, yn adrodd atgofion Grace Sarah Owen , un a dynnwyd i mewn i’r holl helynt gan ei bod yn digwydd bod yn eistedd wrth ymyl y protestwyr. Meddai:
T‘Credwn fod y neuadd yn dod i lawr am ein pennau, rhwng cadeiriau yn clecian, ffyn yn cael eu codi, a llu o ddynion mawr fel “meibion Anac” yn cau amdanom, ac yn llusgo’r merched i’w symud… Cydiodd dau ynof innau yn drwsgwl, ond cry, a theimlwn yn eu gafaelon fel doli bren rad ar ddatgymalu. Erfyniais am drugaredd ganddynt yn iaith fy mam. Dywedais nad oeddwn yn malio pisyn tair am y bleidlais i ferched, mai cadw tŷ i’m tad a phorthi ieir oedd nod uchaf fy mywyd, ac mai syrthio i gwmni drwg ar ddamwain a wnes, ac felly ymlaen.’
Mae’r papur hefyd yn nodi bod rhyw ‘ŵr cyfrifol mewn byd ac eglwys’ wedi tystio’i fod yn adnabod Grace Sarah Owen, a chafodd ei rhyddhau.
Atgofion Miss Kitty Marion
Bu Miss Kitty Marion, un a oedd yn ôl y Western Mail, ar 5 Awst 1933, yn ‘a music-hall artiste in the pay of the propagandist movement’, ychydig yn llai ffodus na Grace Sarah Owen, ond fe roedd hi’n brotestwraig go iawn.
Mae’r adroddiad yn y papur yn sôn:
…part with a large hank of her auburn hair that had been torn from her scalp… Miss Marion’s hair is still in Cardiff, and for a long time was exhibited in the vestibule of the old Western Mail building in St Mary Street. At the outset she declined to part with the hank as she said it would make a most useful “transformation” later on, to cover the bald patch on her bleeding scalp. “Let me have it,” said her interviewer, “and I will give it to Dr Evans Hoyle, the director of the Welsh National Museum, for permanent exhibition at the Museum as a historic relic. This bait took, Miss Marion was so happy in the thought that she would become a historic figure that she succumbed and handed the hair over. Unfortunately the director of the National Museum would not accept it as an exhibit and it has been hidden in a private secretaire ever since!’
Maes yr Eisteddfod
Felly fel y gwelwn, nid yw protestio ar Faes yr Eisteddfod yn rhywbeth newydd, ond mae’n rhywbeth y gwelwyd llawer ohono yn ystod y ganrif a hanner ddiwethaf, er efallai nad yw protestwyr heddiw’n sylweddoli bod y Brifwyl wedi’i defnyddio fel llwyfan i grwpiau pwyso bron i ganrif yn ôl. Mae nifer fawr o Eisteddfodwyr wedi protestio yn erbyn rhywbeth neu rywun dros y blynyddoedd, ac fel rhan o brosiect Atgofion 150, i ddathlu canrif a hanner o’r Eisteddfod ar ei ffurf fodern, rydym am glywed eich hatgofion chi am brotestio ar Faes yr Eisteddfod.
Oes gennych chi ragor o wybodaeth neu ddelweddau yn ymwneud â'r stori yma? Ymunwch a Chasgliad y Werin Cymru, a llwythwch eich eitemau eich hun!