Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.
Disgrifiad
Trawsgrifiad (t.10a):
Arglwydd anfon dy ––
lyferidd [leferydd]; Heddyw yn ei
rwisg ai rim. [rwysg a’i rym]
Dangos fod dy lais yn gryfach
nas gall [nag all] dyn wrthsefill
dim; Tyrd imlan [ymlaen], Nefol dân
cymer yma feddiant glan [glân]
Gweler y nodiadau ymchwil ychwanegol
[item newydd]
Celwddgi [Celwyddgi]
E ddylai fod nod i ni – ar dalcen
Hir clolc\i/og Celwyddgi.
o losgiad gof law wisgi.
Er llai o gael i r [i’r] hyll gi.
Nodyn: yma mae’r ‘E’ ymylol fwy na thebyg yn denodi Englyn.
Nodyn: yn ôl GPC ar lein mae’r gair ‘Celwyddgi’ar lafar gan mwyaf yn y De, o 1824 ymlaen.
Trawsgrifiad (t.10b):
[mewn pensil]
Rhydd i bob meddwl
Rhydd i bawb eu ––
feddwl;
Rhydd i bob meddwl
eu farn.
Rhydd i bob barn eu
Llafar
Nodiadau: Y dywediad “Rhydd i bob meddwl ei farn ac i bob barn ei lafar” yw’r teitl papur Cymraeg newyddion Y Drych yng Ngogledd America, sefydlwyd ym 1851. Gweler y rhifyn 12 Medi 1918 ac eraill. Mae colofn gyson ‘Barddoniaeth’ yn y papur hefyd, efallai cafodd rhai o destunau eu copïo neu clywed gan Margaret.
https://newspapers.library.wales/view/3799577/3799580/23/
*Rhydd can mean ‘rhoi’ [3rd person singular indicative [mynegol] – to give; = Every thought can give its opinion and every opinion can give its voice [nodyn gan Ioan Guile]
Nodyn: Item newydd mewn inc – llawysgrif newydd? Mae’r briflythyren G yn wahanol, ond mae ffurfiau geiriau a sillafu yn gyson. ?Beddargraff. Ysgrifennwyd ar bapur cyfrif.
Dan y Gareg hon mai
n [mae’n] gorwedd;
Wraig a garay r [carai’r] Gwely
n [’n] rhyfedd.
Os car [câr] hi[’r] bedd fel
cari [carai’r] Gwely
Hi fydd r [yr] olaf in [un]
yn codi. [=ar Ddiwrnod yr Atgyfodiad]
[Heb ei ddarganfod yn erthygl Guto Rhys: gweler eitem 3b]
Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod
Sylwadau (0)
Rhaid mewngofnodi i bostio sylw