Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Lede
Cwmni Buddiannau Cymunedol yng Nghaergybi.

Stori
Mae #ThatPurplePlace yn gwmni buddiannau cymunedol dielw a sefydlwyd yn 2022 gyda’r nod o hybu iechyd corfforol a meddyliol i unigolion, busnesau, a chymuned Ynys Cybi. Mae’r sylfaenydd, Abi Jenkins, wedi’i sbarduno gan ei hangerdd am les a’r adborth a gafodd gan y gymuned leol. A hithau’n arbenigydd meddylfryd a meddwl mae Abi’n gobeithio dysgu, ysbrydoli ac ysgogi pobl i fyw bywydau hapusach, iachach a mwy cadarnhaol. Mae ganddi hanes cydnabyddedig o helpu pobl trwy ei mentrau presennol, The Yes Life a Diamond Enterprises. HI hefyd yw awdur Get Unstuck: Move from the life you have to the one you want (2019).

Mae gweledigaeth #ThatPurplePlace yn cwmpasu amrywiol agweddau, gan gynnwys llesiant pobl ifanc, busnesau bach, teuluoedd, a’r genhedlaeth hŷn yn yr ardal leol. Maen nhw’n ceisio dileu rhwystrau sy'n ymwneud â ffitrwydd, helpu entrepreneuriaid ifanc, darparu llwyfan i fusnesau ddangos eu cynhyrchion a'u gwasanaethau, a phwysleisio ymwybyddiaeth ofalgar a thawelwch i'r rhai mewn angen. Fel cwmni buddiannau cymunedol, mae’r holl elw sy’n cael ei greu gan #ThatPurplePlace yn cael ei ail-fuddsoddi yn ei weithgareddau, ei gyfleusterau a’i ddatblygiad yn y dyfodol. Mae #ThatPurplePlace yn amlygu ei hun trwy fod yn unigryw yn ei ddull amlochrog. Mae’n cyfuno’r holl elfennau sy’n brin mewn sefydliadau eraill ond sy’n hanfodol i’r gymuned. Mae'r sefydliad yn annog unigolion i archwilio'r cysyniad o ddeddf atyniad ac yn cynnig gweithdai amlygu i hybu twf personol. Daeth gweledigaeth #ThatPurplePlace yn realiti pan gafodd ei osod ar fwrdd gweledigaeth Abi a sicrhau lleoliad addawol yng nghanol Caergybi am rent fforddiadwy.

Roedd Abi’n rhag-weld lle a fyddai'n ateb sawl diben ac yn darparu ar gyfer gwahanol anghenion. Ceisiodd greu man gymunedol y gallai pobl ymfalchïo ynddi, cefndir bywiog ar gyfer lluniau Instagram pobl ifanc, amgylchedd croesawgar ar gyfer twf personol, lle anfeirniadol ichi gychwyn ar siwrneiau ffitrwydd, lleoliad hardd ar gyfer gweithio o bell, a chanolbwynt rhwydweithio ar gyfer cydweithredu a mentro. Drwy feithrin y meddylfryd cywir, sicrhau gweledigaeth glir, a digonedd o egni, mae hi’n creu bod unrhyw beth yn bosibl.

Mae #ThatPurplePlace yn fenter uchelgeisiol sy’n cael ei sbarduno gan awydd gwirioneddol i godi’r gymuned. Drwy eu harlwy amrywiol, eu meddylfryd cynhwysol, a’u hymrwymiad i ail-fuddsoddi yn nhwf y sefydliad, y nod yw creu palas porffor o bositifrwydd ac ysbrydoliaeth yn eu hardal leol.

I gael rhagor o wybodaeth am #ThatPurplePlace ewch i’w gwefan nhw, yma: www.thatpurpleplace.com

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw