Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Lede
Prin iawn yw'r digwyddiadau a lwyddodd i greu cymaint o gyffro yn y dref fechan hon ar lan Môr Iwerddon ag y gwnaeth yr ymweliad brenhinol cyntaf mewn canrifoedd; pan y bu'n rhaid oedi taith Brenin George IV i Iwerddon ym 1821.

Stori
Roedd y diwrnod mawr y bu cryn edrych ymlaen iddo yng Nghaergybi wedi cyrraedd o'r diwedd: byddai Brenin George IV (1820-1830), a oedd newydd gael ei goroni, yn ymweld â Chaergybi am y tro cyntaf yn ystod ei daith fawr agoriadol. Yn ystod oriau mân y bore ar ddydd Llun, 6 Awst, 1821, cynnwyd coelcerthi o gwmpas Mynydd Caergybi i ddynodi'r cip cyntaf ar y cwch hwyliau brenhinol. Ymatebodd y dref trwy danio canonau o Ynys Halen i gofnodi'r ffaith eu bod yn edrych ymlaen yn eiddgar at bresenoldeb y brenin – yna digwyddodd dim byd.

Roedd gwynt isel a'r llanw wedi atal y cwch hwyliau rhag cael mynediad i Fae Caergybi tan hanner nos; ac roedd hyn yn oedi rhaglen y brenin yn sylweddol. Roedd neges a anfonwyd o'r cwch hwyliau brenhinol yn nodi y byddai angen i'r brenin fynd yn ei flaen heb ymweld â thref Caergybi ar yr achlysur hwn. Yn ffodus i ddinasyddion y brenin yng Nghaergybi, roedd y tywydd yn wael (awel gyson o'r gorllewin), felly nid oedd hyn yn helpu ei gynlluniau; fel y digwyddodd hi, bu'r brenin yn yr ardal am sawl diwrnod.

Ar ôl treulio'r noson gyntaf ar y cwch hwyliau brenhinol yn y bae, perswadiwyd y brenin i fynd i'r lan o'r diwedd ac i dref Caergybi – yn dilyn rhywfaint o berswâd gan Henry Paget, Marcwis 1af Ynys Môn. Yn ychwanegol i hyn, cynigiodd y Marcwis letygarwch yn ei blasty yn y wlad, Plas Newydd, ar ochr arall Ynys Môn.

Felly, camodd George IV ar Ynys Gybi ar brynhawn dydd Mawrth, ac fe'i cyfarchwyd gyda gorfoledd ac anrhydedd. Rhoddodd y barwn lleol, Syr John Stanley, anerchiad crand ar ran tref Caergybi a'r cyffiniau. Ar ôl y seremoni hon, teithiodd y brenin a'i osgordd ar draws Ynys Môn i dreulio'r noson ym Mhlas Newydd. Y noson honno, roedd marchog wedi gadael Llundain ar ei ben ei hun gyda neges frys o'r llys brenhinol.

Treuliodd George ddydd Mercher yn cynnal llys ym Mhlas Newydd i ddirprwyaethau o Ynys Môn a Sir Gaernarfon. Cyrhaeddodd y marchog o Lundain gyda'r newyddion am farwolaeth gwraig y brenin, Caroline. Ni chofnodir a oedd hyn wedi digalonni Brenin George neu beidio. O ystyried yr elyniaeth rhwng y ddau dros ddegawdau, efallai y byddai wedi bod yn pryderu mwy am anghyfleustra hyn i'w daith. Sut bynnag, dychwelodd i Gaergybi yn y prynhawn, gan obeithio teithio i Iwerddon.

Aeth dydd Iau, dydd Gwener a dydd Sadwrn heibio, ac roedd y gwyntoedd yn rhwystro'r fflyd frenhinol o hyd. Erbyn hyn, roedd y newyddion am farwolaeth y Frenhines wedi mynd ar led, a byddai parhau ar ei daith gyda rhwysg a rhodres llawn wedi bod yn ddi-chwaeth. Wedi'r cyfan, bwriad ei daith oedd sicrhau cefnogaeth ei ddinasyddion, y gallent gael eu perswadio i anghofio am ei orffennol gwastrafflyd fel tywysog a oedd yn dipyn o bartïwr.

Er gwaethaf y gwyntoedd gorllewinol a oedd yn parhau, penderfynodd y brenin deithio ar long bost gyffredin yn y diwedd: pacedlong Lightning, a'r capten oedd John MacGregor Skinner. Gadawont am Iwerddon ar y bore Sul. Pan gyrhaeddodd George IV Iwerddon bron i wythnos yn hwyr, nid oedd croeso mawr iddo – y brenin cyntaf i gynnal ymweliad gwladwriaethol er Richard II. Arhosodd y fflyd a'r cwch hwyliau brenhinol yng Nghaergybi, ac nid oedd unrhyw un yn disgwyl i'r brenin gyrraedd mewn ffordd mor ddi-nod. Er hyn, mae'n ymddangos bod George wedi gwerthfawrogi'r eironi. Cynigiodd urddo Capten Skinner yn farchog yn y fan a'r lle, ond gwrthododd y capten llong. Yn hytrach, ail-enwyd llong ddewr Lightning yn Royal Sovereign George the Fourth.

Bron yn union ddau fis yn ddiweddarach, methodd Royal Sovereign George the Fourth ym Mae Dulyn. Roedd ei phrif siafft wedi torri a bu'n rhaid ei thynnu'n ôl i Gaergybi.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw