Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Lede
Mae'r blogbost hwn yn un mewn cyfres barhaus i ddangos rhai o wrthrychau arbennig casgliad Amgueddfa Forwrol Caergybi. Gallwch gweld y gyfres lawn ar y wefan, Holyhead: Stories of a Port. Diolch yn fawr i Barry Hillier am rannu'r stori gyda Phorthladdoedd, Ddoe a Heddiw.

Stori
Mae nifer o blaciau coffa i’w gweld yn yr amgueddfa. Cafodd y rhain eu gwneud o efydd a’u rhoi i’r perthnasau agosaf i gofio’r rhai a gollwyd yn ystod Rhyfel Mawr 1914-18. Ar bob un gwelir enw’r sawl a fu farw. Cafodd mwy na miliwn eu dosbarthu.

Dim ond 600 o blaciau coffa a roddwyd er cof am fenywod a gollodd eu bywydau oherwydd y rhyfel. Mae'r plac yn yr oriel ddelweddau isod yn dangos enw’r Stiwardes Louisa Parry o Gaergybi, a fu farw pan drawyd yr RMS Leinster ei tharo gan dorpedo ym mis Hydref 1918. Wrth i’r llong suddo'n gyflym, aeth Louisa i un o’r deciau islaw i helpu menyw a phlentyn ond aeth yn sownd gyda nhw yn eu caban wrth i'r dyfroedd godi.

Pan suddwyd yr RMS Leinster fe gollwyd dros 650 o fywydau gan gynnwys Stiwardes arall o Gaergybi, Hannah Owen. Bu hi a Louisa yn gweithio mewn ysbytai cyn cael eu cyflogi gan y City of Dublin Steam Packet Company. Roedd Hannah yn 36, yn ddi-briod ac wedi bod yn gweithio i'r cwmni ers 12 mlynedd. Roedd yn byw gyda'i theulu yn 2 Tower Gardens, Caergybi. Cafodd ei Phlac Coffa hithau ei werthu mewn ocsiwn yn 2006.

Roedd Louisa, 22 oed, yn un o naw o blant. Roedd dwy o’i chwiorydd hefyd yn cael eu cyflogi fel stiwardes, ac roedd un yn sâl ar y diwrnod hwnnw ac fe hwyliodd Louisa yn ei lle. Roedd y teulu’n byw yn 5 Fairview, Caergybi. Credir bod Louisa wedi dyweddïo ac am briodi swyddog yn y Fyddin yn fuan.

Roedd Hannah a Louisa ymhlith nifer o fenywod o Gaergybi a fu'n gweithio fel Stiwardesiaid ar longau Môr Iwerddon a fu’n hwylio o'r porthladd. Roedd peryglon ym mhob croesiad nid yn unig o du grymoedd natur ond hefyd wrth i'r rhyfel fynd yn ei blaen dechreuodd llongau tanfor y gelyn hela ac ymosod ar longau'r CoDSPCo a'r LNWR. Mae rhestrau swyddogol y criw ar gyfer 1915 yn cynnwys enwau 16 o Stiwardesiaid o Gaergybi. Eu dyletswydd nhw, pe bai yna ymosodiad ar y llong, oedd gofalu am ddiogelwch y menywod a’r plant a oedd yn teithio, gan beryglu eu bywydau eu hunain, mae'n debyg.

Cymerodd y Rhyfel Mawr fywydau dwy fenyw arall o Gaergybi hefyd. Cafodd Margaret Williams ei cholli pan suddwyd llong yr LNWR, SS Connemara, yn Llyn Carlingford yn dilyn gwrthdrawiad trasig gyda’r SS Retriever. Yn ystod storm ffyrnig ac o dan oleuadau cyfyngedig cyfnod y rhyfel, roedd y llong wrthi ar un o’i chroesiadau cyson o Greenore yn Iwerddon i Gaergybi. Credir mai'r daith hon oedd un olaf Margaret i fod, cyn gadael er mwyn priodi. Roedd hi’n 32 oed.

Ymunodd Annie Roberts o 6 Ponthwfa Terrace, Caergybi, â’r WRAF ym mis Mai 1918 a chafodd ei hanfon i Neuadd Hooton, Swydd Gaer. A hithau’n 20 oed yn unig, bu’n un o’r nifer fawr a gollwyd, yn anffodus, yn epidemig y ffliw.

Mae’r llyfr o 1920 ‘Holyhead and the Great War’ gan R E Roberts yn cofnodi bod 62 o fenywod y dref wedi gwasanaethu mewn lifrai – WRNS (4), WAAC (12), Bwrdd Arlwyo Cenedlaethol y Fyddin (8), Byddin y Tir (12) ac Arfau Rhyfel (26). Yn ychwanegol, bu bron i 40 o fenywod yn gwasanaethu fel rhan o ymdrechion y Groes Goch yn ysbytai a chartrefi ymadfer niferus yr ardal.

Nid yw holl golledion Caergybi wedi’u cofnodi ar Gofeb Rhyfel y dref. Roedd Catherine (Katie) Evans, Fferm Bryniau Llygaid, Caergybi, yn nyrs wirfoddol ar gyfer Adran Cymorth Gwirfoddol y Groes Goch (VAD) yng Nghaergybi yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Bu Katie’n gwasanaethu gydag Adran Rhif 8 Sir Fôn ond yn anffodus bu farw ar 16 Hydref 1914. Er nad yw wedi’i choffáu ar Gofeb Caergybi, mae wedi’i rhestru ar un o’r paneli yng Nghadeirlan Caerefrog sy’n coffáu aelodau o’r gwasanaethau nyrsio. Roedd Katie yn ddi-briod ac yn 34 oed yn unig pan fu farw yn dilyn llawdriniaeth ar gyfer wlser tyllog. Drannoeth ei chynhebrwng, gwirfoddolodd ei chwaer Pollie Evans ar gyfer y VAD.

Gyda diolch yn arbennig i Simon a Jon McClean a roddodd blac coffa eu hen fodryb, Louisa Parry, i’r amgueddfa a hefyd caniatáu i’w ffotograff gael ei gyhoeddi.

Tamaid hanesyddol
- Pan gafodd y placiau coffa eu dylunio am y tro cyntaf, ni ragwelwyd y byddai eu hangen i gofio menywod a bu’n rhaid eu haddasu i newid yr ‘HE’ yn ‘SHE’. Er mwyn ychwanegu’r ‘S’ cafodd ‘H’ lawer culach ei chreu i wneud lle iddi.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw