Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Yr awdur a’r perfformiwr o Gaergybi, Gillian Brownson, sy’n adrodd cerdd o safbwynt Mynydd Twr, gan archwilio amser araf, dwfn y mynydd a’i farn am y byd o’i gwmpas.

---

Cynefin, cynefinoedd

cyfarwydd, arferol, cydnabyddus â

cyrchfan gyffredin person, amgylchedd arferol, preswylfod, trigfan

Hiraeth

galar a thristwch ar ôl rhywun neu rywbeth a gollwyd, dymuniad neu ddyhead dwys

-Geiriadur Prifysgol Cymru

Cynefin. Gwreiddiau. Cynefindra. Y dynfa sy'n magu Hiraeth tra byddwch i ffwrdd. Wrth weithio i Porthladdoedd, Ddoe a Heddiw yn ddiweddar, gan helpu i gynhyrchu Ffilm Farddoniaeth gyda'n partneriaid yn Mother Goose Films, roedd hi’n ymddangos yn iawn siarad am fy mherthynas i â'r rhan honno o Gaergybi sy’n fwyaf cyson, yn fwyaf cryf – y Mynydd.

Fuodd Mynydd Twr, a’r llwybrau sy’n troelli ar hyd y glannau hyd at y morglawdd, ddim bob amser yn hafan i mi. A dweud y gwir, roedd hi’n uffern unwaith yr wythnos ar ddydd Mercher, pan fyddai’n rhaid i mi a gweddill Blwyddyn 10 redeg yno tra byddai’r athrawon Addysg Gorfforol yn ymddangos o bryd i’w gilydd mewn Fiesta i weiddi “Daliwch ati!” Ond, dyna fo, bloc adeiladu ymysg llawer o rai eraill – fy mhrosiect Celf lefel ‘A’ oedd astudio fflora, ffawna ac adeiladau diwydiannol mewn pen ac inc – dyma rai astudiaethau gen i yn 17 oed – roeddwn i’n gwybod bod rheswm dros gadw fy llyfr braslunio! Roedd yna gyfle i hel mwyar duon; a gwrando am ysbrydion yn y cylchoedd cytiau. Fwy nag unwaith, mi es ar gefn fy meic i ymweld â’m chwaer a ffrindiau wrth iddyn nhw wirfoddoli ym Mharc Gwledig y Morglawdd. Cerdded gyda fy rhieni, crwydro gyda ffrindiau, bwydo’r hwyaid gyda fy mhlant. Gyda phob blwyddyn sy’n pasio, mae Mynydd Twr a’r holl olygfeydd o’r copa i’r gwaelod wedi dod yn eiddo i mi. Dwi’n siŵr bod llawer un arall yng Nghaergybi yn teimlo’r un fath.

Mae Mynydd Twr yn cysgodi’r porthladd, gyda’i forglawdd cam (do, fe glywson ni fod John Rennie wedi bod yn llymeitian wrth ei ddylunio, a chredu hynny hefyd!). Ond mae hefyd yn ein gwarchod ni, fel cymuned. Mae’n gwylio droson ni’n gyson wrth i ddatblygiadau a’r byd modern siapio gweddill yr ynys, yntau wedi’i ddiogelu gan ddeddfau ar sail ei bwysigrwydd amgylcheddol, ei gartref i adar a blodau prin, a’i safle hanfodol i rybuddio morwyr eu bod yn nesáu at ynys greigiog yn y tywyllwch. Mae Mynydd Twr yn rymus, ac mae wedi gweld cymaint nes bod y gerdd hon wedi esblygu yn ei enw fo.

Mi allwn i esbonio’r hyn sydd y tu ôl i bob gair, a phob delwedd, ond dwi ddim yn gweld pwynt esbonio barddoniaeth. Digon yw dweud bod y mynydd, i mi, yn ymgorffori Cynefin, ac na fydd Hiraeth byth yn ffactor iddo, ond wrth gwrs, mae o'n gweld y peth bob dydd wrth wylio'r rhai sy'n gadael Cymru ac Iwerddon. Y gobaith sy gen i yw y gallai'r rhai sy'n cerdded heibio i’r mynydd, y rhai sy'n ymweld ag o, yn ei ddringo, yn gofalu amdano neu’n ei wylio’n ymddangos ac yn diflannu o'r golwg o long ddod o hyd i rywbeth ynddo a ddaw yn eiddo iddyn nhw.

MAP
Skip


Mynydd Twr

Gan Gillian Brownson

Blasted from my side, a stone child breaks the water,
like a finger of fossils in the flood,
Holding back trouble, sea serpents & storms
Cradled and battered in the mussels and the mud.

And horizoned, beyond, my great Wicklow sisters,
fastened to the crag of their land,
Freeing the rain, falling on sails
Driving through and stabbing in the sand.

Still, they say goodbye. Mordeithiau.

Those that wonder, waving from the whirl of the water,
in the strum of the salt green sea,
Hauled in from Ireland,
The waves curling, hurling them home to me.

In a forest of masts, then of funnels,
Fisher-manned, and flying into morning,
Past the anchored sun floating,
The light of the sky and the sailor’s warning.

They sail by. Agosáu.

Tiny as darting stars they come,
Twinkling under oil and flame
Running on decks, hoisting up sails,
Cracking bottles against their boat’s name.

For Centuries, creaking through the murk of fogs,
Over the toll of the boatswain’s whistle,
Washing over shipwrecked rocks
Up here, among Gorse & heather & thistle.

I see. Dyma fi.

The messengers come rowing, the tugs towing
the scrolls of the Captain’s log.
Or a missive of love, the treaties of kings,
From the pen of an old sea dog.

And some are shadows, below in the bones of ships,
Dark words in an ancient hold,
the letters bold, deep for the divers,
float there, not read and not told.

The Water at War. Byddwn yn eu cofio.

I heard guns, not a fog horn, one morn,
The day’s face in the cloud of a frown.
The speed of a torpedo, the crash of the hull,
It came and sang Blow the Man Down.

And an engine failed, in my sky, in my eye,
The Jigs Up went down to the deep.
Now I flower for them, and the many laying here,
And soothe them in death’s lonely sleep.

But above, The Boat’s in the wind. Lle dych chi’n mynd?

Tracing a track on the back of a monster,
A life anew for you?
Dancing the jig to the horns of ships,
A scouse terrace with a different view.

Neu aros yng Nghymru, o dan yr awyr hallt,
A gwylio'r llongau gyda fi.
Mae eich mordaith wedi bod yn hir,
Now linger here and melt to the Sea.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw