CUPHAT-  Ucheldiroedd Arfordirol: Treftadaeth a Thwristiaeth's profile picture

CUPHAT- Ucheldiroedd Arfordirol: Treftadaeth a Thwristiaeth

Dyddiad ymuno: 14/10/22

Amdan

Bywgraffiad CY: 
Nod cyffredinol CUPHAT yw arddangos treftadaeth naturiol a diwylliannol ardaloedd ucheldirol arfordirol yn Iwerddon a Chymru i gynyddu mathau cynaliadwy o dwristiaeth ynddynt, gan arwain felly at greu bywoliaeth, cymunedau ac amgylcheddau mwy cynaliadwy. Bydd CUPHAT yn gweithio gyda deuddeg o gymunedau ucheldir ym mhedair ucheldir arfordirol Mynyddoedd Cambria, Preseli, Wicklow a’r Blackstairs i wireddu’r nod hwn. Mae gennym ddiddordeb mewn dysgu gan y cymunedau eu hunain am yr hyn y byddent am ei ddathlu a’i gyfathrebu i dwristiaid. I’r perwyl hwn, ein nod yw hyrwyddo math o dwristiaeth sy’n gweithio er budd yr ardaloedd hyn. Ariennir CUPHAT gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF) drwy Raglen Gydweithredu Iwerddon Cymru. Bydd y prosiect yn gweithio gydag amrywiaeth o randdeiliaid cymunedol, lleol a chenedlaethol o Gymru ac Iwerddon, gyda Phrifysgol Aberystwyth yn arwain y prosiect, ac yn gweithio mewn partneriaeth â Choleg Prifysgol Dulyn ac Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed. Mae pedair ucheldir arfordirol Mynyddoedd y Cambria, Preseli, Wicklow a’r Blackstairs wedi dibynnu’n hanesyddol ar ddiwydiannau traddodiadol fel amaethyddiaeth a choedwigaeth. Maent hefyd yn ardaloedd y mae twristiaid yn ymweld â hwy ond mae lle i fanteisio ar y farchnad hon mewn ffyrdd mwy effeithiol a chynaliadwy. Nod CUPHAT yw creu cyfleoedd i gymunedau elwa o dwristiaid sy’n chwilio am ardaloedd llai masnachol i ymweld â hwy, yn enwedig mewn perthynas â themâu: Bywydau byw & Tirweddau; Bioamrywiaeth; Archaeoleg; Daeareg/Geomorffoleg.

Gwefan: https://cuphat.aber.ac.uk/cy/amdanom-ni/ (Yn agor mewn ffenestr newydd)

  • 152
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 147
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 134
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 155
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 167
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 135
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 142
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 157
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 165
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 121
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 100
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi