Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Cafodd ‘HMS Tara’ ei daro gan dorpido ar 5 Tachwedd 1915 ger Sollum, harbwr i’r dwyrain o’r ffin â Libya. Collwyd 12 o fywydau ar y môr. Trosglwyddwyd y goroeswyr i wrthryfelwyr Senussi, a'u gorymdeithiodd am 11 diwrnod i Bir Hakkim, safle caer Otomanaidd a adeiladwyd o amgylch ffynnon Rufeinig hen a segur.
 
Yn gyfan gwbl, byddai'r goroeswyr yn treulio 135 diwrnod yn anialwch Libya. Roeddent yn cael rasiwn bychain o reis ac yn aml yn chwilota am falwod i ategu'r diet prin hwn. Roedd yr ychydig ddŵr oedd ganddyn nhw yn fudr a lled hallt, a chollwyd 5 o fywydau pellach yn y pen draw oherwydd dysentri a diffyg maeth.
 
Roedd nosweithiau yn yr anialwch hefyd yn chwerw oer. Rhoddwyd y flanced hon o ystâd yr Is-Lefftenant Leslie T Dudgeon, swyddog a oroesodd y profiad hwn. Cychwynnodd Dudgeon cyn yr achub i ddod o hyd i ddarpariaethau ar gyfer y gwersyll, ond cafodd ei ddal gan luoedd milwrol Otomanaidd. Cadwodd y flanced ef yn gynnes trwy nosweithiau oer yr anialwch.
 

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw