Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Mae'r bont hon, sy'n croesi afon Glaslyn ar ben deheuol Bwlch Aberglaslyn ac mae darluniau a phaentiadau niferus wedi ei chreu ohoni dros y blynyddoedd gan rai o artistiaid dyfrlliw enwocaf Prydain, yn cynnwys Paul Sandby, Francis Towne, JMW Turner, Cotman, Cox a John Varley. Fe'i hadeiladwyd yn yr ail ganrif ar bymtheg, a chafodd ei hailadeiladu a'i lledu yn ystod y 1790'au. Codwyd Tŷ'r Bont yng nghanol y 1800’au. Cyn i'r Cob gael ei adeiladu ar draws morfa Glaslyn, roedd y bont yn un oedd yn cael ei rheoli gan y llanw a byddai modd ei chroesi trwy fynd â chwch bychan ati. Yn union uwchben y bont, ceid llamfa eogiaid.  Ond mae'n ymddangos nad oedd yn bodoli erbyn i'r paentiad hwn gael ei gwblhau, er ei fod i'w weld yn nifer o baentiadau a darluniadau cynharach o'r bont o edrych arni yn is i lawr yr afon.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw