Cricieth - Yr Hen Felin
Disgrifiadau
Cricieth - Yr Hen Felin
Mae melin wedi bod yn y fan ers adeg ganoloesol, efallai yn gynharach. Cludwyd ceirch a haidd ir felin mewn troliau i gael eu malu. Mewn llythyr, or Casgliad Bryncir or 17 ganrif, mae sôn am shipt maize syn awgrymu bod ambell lwyth yn cael ei chyflwyno mewn llongau bach yr arfordir. Buasair felin yn malu grawn ir ffermwyr am dâl neu brynu rhywfaint i werthu i drigolion y dref. Pobwyd y bara gan y menywod eu hunain neu byddant yn mynd âr toes ir becws iw bobi. Gwnaethpwyd rhai ychwanegol i werthu ac maent yn ymddangos fel pobyddion yn y cyfrifiadau. Daeth blawd gwenith gwyn ar gael yn yr ardal ar ôl ir rheilffordd gyrraedd yn 1867. Am y rheswm yma a gyda sefydlu poptai unigryw llaciodd gwaith y felin. Trigodd y melinydd olaf yn Nh? Felin yn y 1880 degau. Maen bosib y defnyddiwyd y felin dro i dro yn dechraur 20fed ganrif. Maer Afon Cwrt, oedd yn gyrrur olwyn, weithiau ond yn diferu yn yr Haf ac yn gorlifo yn y Gaeaf felly maen rhaid roedd yna drefn o lifddorau is ac uchod o bwll y felin. Dargyfeiriwyd y nant bach Ffrwd y Brain, syn codi ir dwyrain or dref, ir gyfundrefn. Yn y ffordd yma medrodd y melinydd, mewn amseroedd sych, adeiladu pen ir pwll ac mewn llifogydd, dargyfeirior d?r i lawr y cylfat presennol.
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment