Cricieth – Tylwyth teg Ystumcegid.
Disgrifiadau
Cricieth - Tylwyth teg Ystumcegid.
Ar gyrion Cricieth, ar y ffordd i Gwm Pennant, mae fferm Ystumcegid. Nid yw'n bell o adfeilion y plasty Cefn y Fan a losgwyd i lawr gan Owain Glynd?r. Mae enw'r fferm yn deillio o'r geiriau Ystum, tro yn yr afon a Cegid, planhigyn gwenwynig (Hemlock yn Saesneg). Mewn rhai hen ddogfennau fe'i henwir Ystumcuddiedig. Mae cromlech yma; y cerrig sy'n weddill o dwmpath claddu hynafol. Cysylltodd gwerin y wlad, yn yr oes a fu, y strwythurau hyn â thylwyth teg ac mae nifer o straeon yn bodoli. Mewn un chwedl fei gelwir y gromlech yn Coeten Arthur (Arthurs Quoit yn Saesneg) yn cyfeirio at gêm a chwaraewyd gan y Brenin Arthur. Un diwrnod roedd y ffermwr, nad ydym yn gwybod ei enw, yn cerdded wrth yr afon pan ddaeth ar draws cylch o frwyn. Fei ciciodd ar ddamwain gan darfu ar rai tylwyth teg a oedd yn dod allan i ddawnsio. Fe wnaethant ei ysbrydoli i fyw i ffwrdd ymysg ei gilydd a gwnaeth am ychydig. Syrthiodd mewn cariad ag un o'r tylwyth teg a'i phriodi ond roedd eisiau dychwelyd i wlad bodau dynol. Cytunodd ei wraig ond dim ond ar yr amod nad oedd byth yn cyffwrdd â haearn a phe bai'n gwneud, byddai'n dychwelyd i wlad y tylwyth teg. Gyda'r gyd-ddealltwriaeth hon aethant yn ôl i'w gartref yn Ystumcegid lle buont yn byw yn hapus am nifer o flynyddoedd ac roedd ganddynt sawl plentyn. Un diwrnod roedd yn paratoi ei staliwn afreolus i fynd i'r ffair ym Mhenmorfa ond roedd yn cael trafferth. Pan geisiodd daflu'r ffrwyn dros ben y ceffyl fe fethodd, a tharodd y ffrwyn haearn ei wraig. Roedd hi'n drist iawn ac yn poeni am ei phlant a chyn iddi ddiflannu adroddodd y gerdd ganlynol. Rhag bod oerfel ar fy mab, Yna rhowch arno gòb ei dad; Rhag bod yr un teg yn teimlor oer, Rhoddwch arni bais ei mam. Dywedwyd bod yna lawer o ddisgynyddion y cwpl hwn yn yr ardal. Ar ddiwrnod Ffair Penmorfa pe bai anghydfod yn codi a bod yna deimlad drwg neu hyd yn oed ymladd, byddai pobl yn sarhaur rheini o Gwm Pennant trwy gyfeirio atynt fel Belsiaid sef hanner tylwyth teg, hanner dynol â chroen melyn a gwallt tywyll.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment