Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Cricieth - Frederic Stanley Kipping FRS

Gwyddonydd 1863-1949 Ganwyd yr Athro Kipping yn Higher Broughton ym 1863. Astudiodd gemeg yn Llundain a'r Almaen ac wedi hynny fe'i penodwyd yn Athro Cynorthwyol yng Ngholeg Herriot Watt yng Nghaeredin. Ymgymerodd â llawer o'r gwaith cynnar i ddatblygu polymerau silicon ym Mhrifysgol Nottingham ble oedd yr Athro cyntaf cemeg ariannwyd gan Sir Jesse Boot. Arloesodd yn yr astudiaeth o gyfansoddion silicon organig a bathodd y term silicon. Roedd ei ymchwil yn sail ar gyfer datblygiad byd-eang y diwydiannau iraid synthetig sy'n seiliedig ar rwber a silicon. Ymddeolodd ym 1936, a symudodd ef a'i wraig Lily ynghyd â merch iau i fyw yn 11, Min y Môr Cricieth. Cafodd ei ?yr, Brian, ei symud i Criccieth fel faciwî ar ddechrau’r Ail Ryfel Byd a bu hefyd yn byw gyda nhw a mynychodd Ysgol King’s Caerwrangon a gafodd ei adleoli i Criccieth ar ddechrau’r rhyfel. Cafodd 2 aelod o'r teulu Kipping loches yng Nghricieth yn stod y rhyfel byd. Mae'n cofio bod gan y teulu randir ger yr orsaf ac yn cadw ieir. Gwnaeth Esme, merch ieuengaf yr Athro Kipping, bosau llif-jig a’u gwerthu neu eu rhentu allan trwy Glwb Pos Jig-Saw K.E.K. Maent yn dal i gael eu cofio gan nad oedd llun yn cyd-fynd â nhw ac felly roeddent yn anodd iawn eu cwblhau. Heddiw mae nhw'n brin ac yn werth eu casglu.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw