Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.
Disgrifiad
Cricieth John Ginger Beer 1831 - 1915
Y Ffatri D?r Mwynol
Ganwyd John Rowlands yn Tir Uchaf Cricieth. Daeth yn forwr a llwyddodd i fod yn Gapten. Yn 1869 priododd Catherine Williams o Griccieth ac ymddeolodd o'r môr. Yn 1871 fei cofnodir yn 2 Ormsby Terrace (30 Stryd Fawr heddiw) ai ddisgrifio fel Gwneuthurwr D?r Soda. Fe adeiladodd y ffatri y tu ôl i Deras Holywell a defnyddio d?r or nant syn rhedeg or ffynnon i Afon Cwrt syn rhoi enwr teras. Mae'r d?r hwn yn gyfoethog o ran mwynau a ddynodir gan y berwr d?r sy'n tyfu ynddo. Mae yna hen chwedl bod d?r or nant wedi cael ei ddargyfeirio i gwpwrdd yn y t? pen ar un adeg.
Dros y deugain mlynedd nesaf maen ymddangos yn y cyfrifiadau ar cyfeirlyfrau masnachol fel gwneuthurwr d?r Mwynau neu Soda ac fei gelwid yn John Ginger Beer yn y dref. Yn ddiweddarach bun byw yn Cambrian House a Taleifion Yng nghyfrifiad 1911 fei disgrifir fel Meistr Morwr wedi Ymddeol. Bu farw bedair blynedd yn ddiweddarach, yn aelod uchel ei barch o'r gymuned.
Sylwadau (0)
Rhaid mewngofnodi i bostio sylw