Skip to main content

Poster Coeden Gof - 10 cangen

Disgrifiadau

Mae Casgliad y Werin Cymru (CYW) wedi creu’r poster Llinell Amser Cof hwn i chi ei ddefnyddio mewn gwaith hel atgofion gyda phobl sy’n byw gyda dementia. Mae’n rhan o’r adnodd dysgu CYW Archif Cof: Defnyddio Casgliad y Werin Cymru i Ddysgu am Ddementia.
Argraffu ar faint A2
Rydym yn argymell argraffu’r poster ar faint A2, gan ei fod yn gweithio orau ar y maint hwn. Ar faint A2 bydd gennych lawer o le i ychwanegu nifer o ffotograffau neu ddelweddau maint-rheolaidd at y poster. Rydym ni’n sylweddoli nad yw argraffydd A2 ar gael i lawer o bobl, felly rydym wedi creu ffeil a fydd yn argraffu dau hanner y poster ar faint A3. Yna gallwch ludio’r ddau hanner wrth ei gilydd i greu eich poster A2. (Yn yr un modd, mae’n bosibl creu poster A3 drwy argraffu’r ddau hanner ar faint A4.) Pan argraffwch y ddwy dudalen, bydd border gwyn o amgylch yr ymyl. Torrwch y border hwn i ffwrdd cyn uno’r ddau hanner.
Cewch gyrchu’r poster mewn fformat hollt yma.
Argraffu ar faint A3 neu A4
Os yw argraffydd A2 ar gael, neu os ydych am argraffu ar faint llai, gallwch lawrlwytho’r poster gwreiddiol drwy glicio’r botwm llwyd 'Lawrlwytho (defnydd anfasnachol yn unig)' o dan y ddelwedd. Bydd neges hawlfraint yn ymddangos dros gryno-lun o’r poster. Cliciwch ar y cryno-lun. Bydd hyn yn agor y ddelwedd i lenwi eich sgrin. Nawr defnyddiwch eich llygoden i dde-glicio ar y ddelwedd a dewiswch ‘Cadw delwedd fel’. Bydd ffenestr newydd yn agor. Dewiswch lle rydych chi eisiau cadw’r poster ar eich cyfrifiadur (efallai yr hoffech chi newid Enw’r Ffeil hefyd, i’w gwneud hi’n haws adnabod y poster yn nes ymlaen) a chliciwch y botwm ‘Cadw’. Gallwch yn awr argraffu’ch poster.
Gwneud y gweithgaredd ar-lein
Os nad oes gennych argraffydd (neu os ydych am wneud y gweithgaredd ar-lein) gallwch hefyd gyrchu’r poster mewn fformat MS Word yma.
Pan yn mewnosod eich lluniau yn MS Word, byddwch chi am sicrhau fod yr Opsiynau Gosodiad wedi eu gosod i "Gyda Lapio Testun" ("With Text Wrapping") yn hytrach nag "Yn Unol â Thestun" ("In Line with Text").

Owner:
Casgliad y Werin Cymru / People's Collection Wales
Crëwr:
Casgliad y Werin Cymru / People's Collection Wales
Gwybodaeth drwydded
Copyright Details:
2021
Eitem wedi’i llwytho:
28/1/2021
Date originally created:
19/3/2021
Gwelediadau:
788
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment