Cerdyn post o'r Chwiorydd Dare, 1905
Disgrifiadau
Dyddiad: 13/03/1905
Trawsgrifiad: (Mae'r neges wedi ei sgwenu ar rhyw fath o batrwm triongl sy'n gwneud trawsgrifio'n anodd. Possibiliad yw'r canlynol!) :-
E.P.C. 13/3/05
Mae amynedd yn rinwedd ac ati.
Annwyl ffrind, a wnei di alw amdanaf pnawn yma os nad wyt yn brysur. Rwyf eisiau gwneud pwyntiau gyda E.M. Fe wnaethom aros am yr emynau neithiwr roeddynt yn iawn. Cefais freuddwyd ryfedd iawn neithiwr dy fod wedi priodi JWR ac fod gennyt [shusl?] ddu. [Oh] ac roedd Jack yn falch iawn. Rwyf eisiau dweud wrthyt beth rwy'n ei wybod am y Sulgwyn. Cawsom ein llythyron wythnosol o'r merched ddoe ac mae Nell yn ceisio cael Dad i ddod fyny i Lundain adeg y Pasg ond rwyf i'n gwneud fy ngorau i'w gael i fynd fyny dros Sulgwyn. Maen nhw'n meddwl y byddaf yn unig yma ar fy mhen fy hun ond rwyf i'n gwybod yn well. Beth wyt ti'n ddweud?
(triongl canol - dyfalu!) Clywais gen Joe ddoe. Onid yw yn em. Sgwn i a welaist [Joane/Tenant/?] pnawn ddoe.
Cyfeiriad: Miss Lucy Hannah White, "Holmleigh" Francis Terrace. Lleol.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment